Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Talks

Between Performance and Language: a conversation with Nia Davies, Heike Roms and Tess Wood

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Ymunwch â Heike Roms, Nia Davies a Tess Wood mewn sgwrs sy’n archwilio’r berthynas rhwng perfformiad ac iaith, ac i fyfyrio ar y prosiect ymchwil arloesol, What's Welsh for Performance - An Oral History of Performance Art in Wales 1968 – 2008.

Athro Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Exeter yw Heike Roms. Enillodd ei hymchwil i hanes a hanesyddiaeth celfyddyd perfformio cynnar yng Nghymru (What's Welsh for Performance? Locating the early history of performance art in Wales 1965-1979) Wobr David Bradby TaPRA am Ymchwil Eithriadol yn 2011. Mae prosiectau presennol Heike yn cynnwys: dogfennau sain o gelfyddyd perfformio; cyfranogiad plant mewn gwaith perfformio’r 1960au a’r 1970au; a datblygu celfyddyd perfformio yn ysgolion celf Prydain. Ymhlith y llyfrau mae Heike wedi’u golygu mae: Silent Explosion (2015) ac, wedi’i gyd-olygu gyda Jon McKenzie a C.J.W.-L. Wee, Contesting Performance – Global Sites of Research (2010).

Bardd yw Nia Davies sy’n arbrofi gyda pherfformiad ac arfer corfforedig. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys All fours (Bloodaxe, 2017), gwaith golygyddol i’r cyfnodolyn Poetry Wales (2014 – 2019) yn ogystal â sawl pamffled a phrosiect perfformio. Cyrhaeddodd All fours y rhestr fer ar gyfer Gwobr Farddoniaeth Roland Matthias yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2018, ac fe gyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Goffa Michael Murphy am Gasgliad Cyntaf yn 2019. Cwblhaodd ymchwil ddoethurol ar sail ymarfer i farddoniaeth ddefodol yn 2021, cyd-guradodd ŵyl Poetry Emergency yn 2018 a 2019, ac mae hi wedi gweithio ar brosiectau llenyddol cydweithredol rhyngddiwylliannol ledled y byd. Mae’n byw yn Abertawe. Bydd ei hail gasgliad o gerddi, Votive Mess, yn cael ei gyhoeddi gyda Bloodaxe yn 2024.

Mae’r artist amlddisgyblaethol, Tess Wood, yn ymgymryd ag ymchwil ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu a darparu celf fyw mewn lleoliad gosodwaith. Mae eu hymchwil wedi arwain at ddatblygu’r ffyrdd y mae iaith yn bodoli yng nghyd-destun celfyddyd perfformio, gan ddatgloi cymhlethdodau ffyrdd dyslecsig o siarad ac ysgrifennu, gyda chymorth gan declynnau trawsgrifio deallusrwydd artiffisial. Mae Tess Wood wrthi’n gweithio ar grant ymchwil a datblygu gyda’r Cyngor Celfyddydau, gan ddatblygu gwaith perfformio grŵp gyda’r gasgleb SCORE, ac yn gweithio yng ngwasanaethau llyfrgell ac archifau Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Share