Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Gŵyl Ffilmiau’r Dyfodol y BFI yn cyflwyno: Y Don Nesaf yng Nghymru (15)

  • 4h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 4h 30m

Mae gŵyl fwyaf y DU ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau ifanc a newydd yn dod i Chapter!

Uchafbwyntiau Gŵyl Ffilmiau’r Dyfodol y BFI 2024 ~ 14:00 - 15:15 ~ Sinema 1
I ddechrau, byddwn yn dangos rhaglen arbennig o ffilmiau byrion newydd gwych o Gymru a ledled y DU, ac yn clywed gan rai o’r bobl greadigol y tu ôl iddynt.

Chapter MovieMaker: Lleisiau Newydd o Gymru ym Myd y Ffilm - 15:30 - 17:00 • Sinema 1
Ymunwch â gwneuthurwyr ffilmiau rhwng 16 a 25 oed o bob cwr o Gymru, a fydd yn cyflwyno eu ffilmiau byrion eu hunain ac yn rhannu manylion y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi’u cefnogi.

Sesiwn Diodydd a Rhwydweithio Gŵyl Ffilmiau'r Dyfodol y BFI - 17:00 - 18:30 • Cyntedd y Sinema
Ar ôl i’r ffilmiau byrion gael eu harddangos yn ystod y dydd, dyma gyfle i gwrdd â phobl ifanc greadigol eraill, i ddatblygu eich cysylltiadau, ac i drafod eich camau nesaf yn y diwydiannau sgrin.

Mae digwyddiadau’r BFI Film Academy Nghymru yn cael eu darparu gan Chapter a’u cefnogi gan gyllid y Loteri Genedlaethol.

Share