Ffrindiau chapter - Ymunwch â ni yma

Ffrindiau
A nun in traditional uniform stares ahead.

Film

Black Narcissus (PG)

  • 1h 41m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 41m

Prydain | Michael Powell, Emeric Pressburger | Deborah Kerr, Kathleen Byron, David Farrar

Mae grŵp o leianod Anglicanaidd, dan arweiniad y Chwaer Clodagh, yn cael eu hanfon i Fynyddoedd yr Himalaya. Mae’r hinsawdd yn yr ardal yn galed, ac mae’r lleianod yn aros mewn hen balas rhyfedd. Maen nhw’n gweithio i sefydlu ysgol ac ysbyty, ac yn helpu i sefydlu eu cenhadaeth Gristnogol, ond yn araf mae unigedd a gwrthdaro diwylliannol yn symud eu ffocws. Mae’r Chwaer Ruth yn cwympo am weithiwr y llywodraeth, Mr Dean, ac mae’r Chwaer Clodagh yn cael ei thynnu’n ôl at atgofion o’i chyfnod cyn ei galwad. Mae’r felodrama steilus yma, lle mae syniadau cadarn o Ymerodraeth yn dechrau dirywio, wedi’i hadfer o’r newydd mewn lliw technicolor hyfryd. 


Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

A group of nuns struggle with their sanity in an isolated Himalayan community.

Share