Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Bluebeard's Castle + The Sorcerer's Apprentice (PG)

  • 1h 15m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 15m

Gorllewin yr Almaen | 1963 | 62’ | PG | Michael Powell 

Norman Foster, Ana Raquel Satre 

Mae’r Bluebeard llofruddgar yn datgelu ei seice i’w wraig newydd Judith wrth ei chyflwyno i’r ystafell ddirgel yn ei gastell. Cafodd y campwaith hwyr yma gan Michaell Powell sydd wedi ei ailddarganfod, ei greu ar gyfer teledu Gorllewin yr Almaen, gan gyfuno perfformiadau rhagorol gyda gwaith dylunio cynhyrchu creadigol ac arloesol.  

+  

The Sorcerer’s Apprentice 

Gorllewin yr Almaen | 1955 | 13’ | Dim Tystysgrif | Michael Powell 

Sonia Arova 

Mewn fersiwn bale o’r chwedl glasurol yma, mae prentis ifanc amhrofiadol i ddewin pwerus yn ceisio defnyddio hud a lledrith i wneud ei gwaith tŷ. 


Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

Reciprocal Gestures

Er mwyn gorffen ein tymor o ffilmiau am gelf ac obsesiwn, rydyn ni’n edrych ar gelfyddyd dawns yng ngwaith Powell a Pressburger. Yn y pedwardegau, pan oedd y byd mewn rhyfel ac yn dymchwel, roedd artistiaid o bob math yn arbrofi â’u ffurf. Gan gymryd cam pendant oddi wrth realaeth mewn ffilmiau wedi’r rhyfel, a chwympo mewn cariad â ffantasi, fe greon nhw rai o’u profiadau mwyaf hudol ar y sgrin drwy geisio dod o hyd i ffordd o ddod â’r gwaith mwyaf beiddgar a gogoneddus roedden nhw wedi’i weld ar y llwyfan i sinemâu, lle gellid eu mwynhau gan gynulleidfa ehangach. “Roedden ni wedi bod yn clywed ers degawd y dylen ni fynd allan a marw dros ryddid a democratiaeth,” cofia Powell. “Nawr fod y rhyfel ar ben, dywedodd The Red Shoes wrthon ni i fynd allan a marw dros gelfyddyd.” 

Tua’r adeg yma, roedd animeiddwyr hefyd yn ceisio lledaenu eu hadenydd a chwarae gyda’r ffurf ar gelfyddyd. Gwelwyd arbrofion o baru cerddoriaeth, dawns ac animeiddiad ym Mhrydain gan Halas a Batchelor a gan Walt Disney yn yr UDA.  

Share