Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

CAF 2024 Industry Day: Creative Wales YAC Showcase (18+)

  • 1h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m

60 mun | 18+ | Iaith Arwyddion Prydain

Lansiodd Cymru Greadigol gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc yn 2022. Ei phwrpas yw cynnig cyllid a chymorth i gwmnïau cynhyrchu annibynnol Cymreig ddatblygu cynnwys ffurf hir dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg – yn fyw ac wedi’i animeiddio – ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.

Datblygwyd y gronfa i wella'r allbwn cyfredol o raglenni a ddarlledir ar deledu dwyieithog wedi'u targedu at blant a phobl ifanc; i hysbysu eu dealltwriaeth o'r byd trwy newyddion, gwybodaeth a dadansoddiad o ddigwyddiadau a syniadau cyfoes; ysgogi gwybodaeth a dysgu ar draws y celfyddydau, gwyddoniaeth, hanes; adlewyrchu hunaniaeth ddiwylliannol y DU ar lefel genedlaethol a chynrychioli amrywiaeth a safbwyntiau amgen.

Mae derbynwyr y gronfa hyd yma yn cynnwys Animation Associates, Boom Cymru, Bumpybox, Bomper, CPE

Productions, Cwmni Da a Picl Animation.

Ymunwch ag aelodau o dîm datblygu sector Cymru Greadigol a derbynwyr cyllid i ddysgu am y ffyrdd y gall cymorth Llywodraeth Cymru roi hwb uniongyrchol i ddatblygiad cynnwys animeiddio o ansawdd uchel, a phrosesau creadigol y cwmnïau a gafodd gymorth yn y rownd hon.

Share