CAF 2026: Case Study – Beginning a Career in Gaming
- 20m
Nodweddion
- Hyd 20m
14+
Stiwdio gemau annibynnol yng Nghaerdydd yw COPA Gaming sy'n creu gemau ymdrochol ar sail stori ac sy'n cyfuno ansawdd sinematig ag agweddau diwylliannol unigryw.
Mae'r sylfaenydd a'r cyfarwyddwr Osian Williams yn rhannu ei daith i fyd datblygu gemau, a sut mae ei sylfaen ym myd ffilm a theledu yn cynnig dull ffres o adrodd straeon rhyngweithiol a dylunio gweledol.
Bydd Osian yn rhannu cipolwg tu ôl i'r llen o gêm gyntaf COPA, Trosedd – sef gêm naratif dditectif un chwaraewr wedi'i lleoli yng Nghymru, lle mae chwaraewyr yn ymchwilio i leoliadau trosedd, yn holi’r bobl dan amheuaeth, ac yn dod i'w casgliadau eu hunain.
Mae'r sgwrs yma’n cynnig cipolwg ar sut gall stiwdio fach adeiladu eiddo deallusol sy'n gystadleuol yn fyd-eang – a pham mae defnyddio diwylliant lleol yn gallu cynnig mantais bwerus ar y llwyfan rhyngwladol.
Bydd gan y digwyddiad yma gapsiynau byw gan Sheryll Holley.