Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Sgrechiwch fel y Mynnwch: All Of Us Strangers

  • 1h 45m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 45m

Dim babi, dim mynediad!


Sgriptiwr sy’n byw yn Llundain yw Adam (Andrew Scott). Mae’n dechrau cyfeillgarwch anesmwyth gyda’i gymydog dirgel Harry (Paul Mescal), sy’n bygwth troi’n rhywbeth mwy clòs. Ar yr un pryd, wrth ymweld â’i hen gartref teuluol, mae’n darganfod rhywbeth od a hyfryd, sy’n parhau i ddod yn ôl ato dro ar ôl tro. Ond wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaenau, mae Adam yn dechrau cwestiynu’r cyfeiriad mae ei fywyd wedi mynd iddo, ac a yw hynny’n peri anfantais iddo.

Mae perfformiad canolog Andrew Scott unwaith eto’n dangos pam ei fod yn cael ei ystyried fel un o’n hactorion gorau. Mae Paul Mescal yn aruchel fel Harry, tra bod perfformiadau Jamie Bell a Claire Foy yn tanio rhai o nodau emosiynol mwyaf trawiadol y ffilm. Mae sgript Andrew Haigh yn taflu ymdeimlad ysgafn o ddrwgargoel dros y cyfan, ac mae ei bortread archwiliadol o berthnasau yr union beth rydyn ni wedi dod i’w ddisgwyl gan sgriptiwr-gyfarwyddwr rhagorol Weekend a 45 Years.


Bob bore Gwener

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share