Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Sgrechiwch fel y Mynnwch: Copa 71

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Dim babi, dim mynediad!

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.


Prydain | 2024 | 90’ | PG | James Erskine, Rachel Ramsay

Mae’r ffilm ddogfen amserol yma’n edrych ’nôl ar Gwpan Pêl-droed Merched y Byd 1971. Dyma dwrnamaint wnaeth ddenu torfeydd mwy nag erioed, ond sydd wedi’i anghofio mewn hanes chwaraeon tan nawr. Drwy adroddiadau gan y menywod arloesol oedd yn rhan ohono a thrwy glipiau archif sydd heb ddod i’r golwg ers hanner canrif, mae’r ffilm, a gynhyrchwyd gan Venus a Serena Williams, yn edrych ar y rhywiaeth sydd ym myd chwaraeon merched.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share