Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Carry on Screaming: Seize Them!

  • 1h 31m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 31m

Nodwch: Dim babi, dim mynediad!

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Dangosiadau pellach ar gael i'r hyn heb fabanod. Edrychwch isod am ddangosiadau a digwyddiadau perthnasol.


Prydain | 2024 | 91’ | 15 | Curtis Vowell | Aimee Lou Wood, Lolly Adefope, Jessica Hynes, Nick Frost

Yn Oesoedd Tywyll Prydain mae chwyldro dan arweiniad Humble Joan yn diorseddu’r Frenhines Dagan. Mae'r Frenhines yn gorfod mynd ar ffo yn ei gwlad ei hun, ac mae’n rhaid iddi wynebu caledi a pherygl wrth iddi gychwyn ar daith i adennill ei gorsedd. Comedi sy’n llawn cynhesrwydd, hiwmor a chleddyfa, wedi'i ffilmio yng Nghymru.


Bob bore Gwener

Dewch â’ch babi i’n dangosiadau ffilm wythnosol o ffilmiau newydd.

Mynediad am ddim i fabanod, amgylchedd ymlaciol, heb angen poeni am darfu - mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan flwydd oed.

Cofiwch: Dim baban, dim mynediad!

Share