
Film
Chicken Run: Dawn of the Nugget
- 1h 38m
Nodweddion
- Hyd 1h 38m
Prydain | Sam Fell | Rhandiwe Newton, Zachary Levi, Bella Ramsey
Gan gwmni Aardman sydd wedi ennill sawl gwobr Academy a BAFTA (Creature Comforts, Wallace & Gromit, a Shaun the Sheep), a chyfarwyddwr sydd wedi’i enwebu am Wobr Academy® a BAFTA, Sam Fell, dyma gyflwyno Chicken Run: Dawn of the Nugget. Dyma ffilm ddilynol i’r ffilm animeiddiedig stop-symud boblogaidd a wnaeth yr elw mwyaf erioed, Chicken Run.
Ar ôl llwyddo i ddianc o fferm Tweedy ac osgoi marwolaeth, mae Ginger wedi canfod ei breuddwyd o’r diwedd – ynys noddfa heddychlon ar gyfer y praidd cyfan, ymhell o beryglon y byd dynol. Pan mae hi a Rocky’n deor merch fach o’r enw Molly, mae’n ymddangos fel pe baent wedi cyrraedd eu diweddglo hapus. Ond yn ôl ar y tir, mae holl ieir y byd yn wynebu bygythiad newydd ofnadwy. I Ginger a’i thîm, hyd yn oed os yw’n golygu peryglu eu rhyddid ar ôl eu gwaith caled – y tro yma, maen nhw’n torri i mewn!
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Nickel Boys (12A)
Mae dau fachgen yn eu harddegau yn creu cysylltiad mewn ysgol ddiwygio greulon yn America’r chwedegau yn y ffilm bwerus yma