Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor
Three black and white square photos of Pauline Oliveros.

Film

Doc N Roll: Deep Listening: The Story of Pauline Oliveros (ctba)

  • 2h 5m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 5m

Bu Pauline Oliveros, cyfansoddwraig ffeministaidd a lesbiaidd adnabyddus o America a chwaraeodd ran nodedig yn natblygiad cerddoriaeth arbrofol, farw yn heddychlon ar 24 Tachwedd, 2016. Fe’i ganwyd ym 1932 yn Houston, Texas, ac fe arloesodd Oliveros gyda chyfansoddiadau aml-gyfrwng cydweithredol gyda synau electronig, tafluniadau golau ac elfennau theatrig yn ystod y chwedegau. Roedd hi hefyd yn creu cyfansoddiadau cerddoriaeth ar dâp, sydd bellach yn cael eu hystyried yn waith clasurol yn hanes cerddoriaeth electronig ac fe gyfrannodd at ddatblygiad cynnar byrfyfyr rhydd. Roedd Oliveros yn croesawu amrywiaeth ddi-ddiwedd synau ein byd. Roedd hi’n ystyried bod y lluosogrwydd sonig yma’n “gyfansoddiad mawreddog” ac roedd hi’n ymroddedig i ddatblygu ac addysgu sgiliau canfyddiadol a’i gwnaeth hi’n bosib i gerddorion, a phobl nad ydyn nhw’n gerddorion, werthfawrogi’r “amgylchedd sain” byd-eang yma. Fe estynnodd hi’r arfer yma at “Wrando Dwfn”, sef math o gelf fyfyriol sy’n canolbwyntio nid yn unig ar synau’r byd allanol, ond hefyd ar synau mwy byrhoedlog ein meddyliau mewnol. Mae gwrando, i Oliveros, yn sylfaen ar gyfer cydweithio, ac yn ffordd o ffurfio cymunedau, sy’n gallu meithrin gwerthfawrogiad o amrywiaeth ddynol. Bydd y ffilm yma’n cyfleu neges ddofn Oliveros yn bwerus, ar adeg mewn hanes dynol lle mae ei hangen fwyaf. 

Share