Performance

Emma Doran: Dilemma!

  • 1h 50m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 50m

Rydyn ni yn y byd ôl-apocalyptaidd. Dim ond un bilsen atal cenhedlu sydd ar ôl. Ydych chi’n ei rhoi i’ch merch 19 oed, neu’n ei chadw i’ch hunan? Ydy hi’n well bod yn nain 40 oed, neu’n fam newydd 40 oed? Dyma’r cyfyng-gyngor sy’n wynebu Emma Doran, sy’n 39 a 7/8fed oed, er mai’r dewis amlycaf fyddai dim un o’r ddau, wrth gwrs. Os yw troi’n 40 yn ddechrau rhywbeth newydd, diwedd beth yw e? ...ach, ble ma’n fêp i?

Emma Doran yw un o’r digrifwyr mwyaf cyffrous i ddod o’r glannau yma ers blynyddoedd. Mae hi wedi stwffio cymaint i mewn i ugain mlynedd diwethaf ei gyrfa, nes ei bod hi bellach yn llais i dair cenhedlaeth.

“Byddech chi’n ddwl i’w methu hi” - Evening Standard.

“Rhibin dymunol o ddrygioni” - The Guardian.

Share