Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Hosted at Chapter

Everyman: Private Fears in Public Places

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Mae drama Alan Ayckbourn o 2004 yn wahanol i’w strwythur arferol; mae’n gyflwyniad hir un act sy’n adrodd straeon chwe chymeriad ar draws 54 o olygfeydd byrion. Mae’r golygfeydd yn cynnig ciplun o’u bywydau dros gyfnod o ychydig ddyddiau, gyda thair stori ryng-gysylltiedig o gamddealltwriaeth, a chyfleoedd a gollwyd.

Ar ôl cael ei ddiswyddo o’r fyddin, mae Dan yn gwastraffu’i fywyd mewn bar gwesty lleol, tra bod ei ddyweddi, Nicola, yn cael trafferth dod o hyd i rywle newydd iddyn nhw fyw.

Mae’r gwerthwr tai, Stewart, yn syfrdanu ar yr hyn mae’n ei ddarganfod ar ddiwedd tâp fideo mae wedi’i fenthyg gan ei gydweithiwr Charlotte.

Mae Charlotte yn darparu gofal seibiant ar ran rheolwr bar, Ambrose, i’w dad, Arthur, ac mae ganddi ffordd anarferol o ddelio ag agwedd annifyr Arthur – gyda chanlyniadau annisgwyl.

Yn eu tro, mae’r golygfeydd yn ddoniol, yn deimladwy, yn drasig ac yn annisgwyl – mae’r chwe chymeriad yn gynnil gaeedig, wrth iddyn nhw geisio mynd i’r afael â rhywbeth coll yn eu bywydau, boed hynny’n gariad, yn seibiant, yn amrywiaeth neu’n ddiogelwch. Mae yna debygrwydd i waith Chekhov, ac mae’r ddrama wedi’i chymharu â’i waith – ond mae ei gwreiddiau hefyd yn gadarn yn yr 21ain ganrif, gyda’r agweddau, y gobeithion a’r disgwyliadau a fynegir mor gyfarwydd i’n bywydau ni heddiw.

Share