Perfformiad

Everyman Theatre: God of Carnage

  • 1h 30m

£16 - £18

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

16+

Mae GOD OF CARNAGE yn ddychan brathog gan Yasmina Reza y cynhyrchwyd ei drama arobryn gan ART Everyman Theatre yn 2023. Mae'n mynd â chi'n ddwfn i'r lle mwyaf peryglus ar y Ddaear. Rhianta.

Enillodd y ddrama hon, a gafodd glod rhyngwladol, Wobr Olivier am y Gomedi Orau yn 2009 a Gwobr Tony am y Ddrama Orau ac fe’i haddaswyd i’r ffilm glodwiw CARNAGE yn 2011, a gyfarwyddwyd gan Roman Polanski gyda Jodie Foster, Kate Winslet, Christoph Waltz a John C Reilly yn serennu.

Comedi ddu am foesau. Heb y moesau. Beth sy'n digwydd pan fydd dau bâr o rieni yn cwrdd i ddelio ag ymddygiad afreolus eu plant? Dadl dawel a rhesymol rhwng oedolion ynglŷn â'r angen i ddysgu plant sut i ymddwyn yn iawn? Neu noson hysterig o alw enwau, strancio a dagrau cyn mynd i'r gwely? Bydd bechgyn yn fechgyn, ond mae'r oedolion yn waeth - llawer gwaeth.

___

Er gwybodaeth: Dim ond ar gyfer perfformiadau ar ddydd Mawrth a dydd Mercher mae consesiynau ar gael. Mae pris y digwyddiad yma wedi’i osod yn ôl disgresiwn Theatr Everyman ac nid yw o reidrwydd yn cyd-fynd â’n polisi prisio safonol.

Oherwydd amodau ein trwydded, ni allwn ganiatáu pobl ifanc o dan 18 oed yn yr adeilad ar ôl 9pm. Dylech wirio amser gorffen unrhyw ffilm, perfformiad neu ddosbarth cyn archebu.

Mae ein rhaglen Cynnal yn Chapter yn cael ei chyflwyno gan ein cymdeithion creadigol a’r gymuned leol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi lle yn Chapter ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r tîm Llogi.

Share

Times & Tickets