Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Io Capitano (15)

  • 2h 1m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 1m

Yr Eidal | 2024 | 121’ | I’w chadarnhau | Matteo Garrone | Woloffeg, Ffrangeg ac Arabeg gydag isdeitlau Saesneg

Seydou Sarr, Moustapha Fall

Mae dau fachgen yn eu harddegau o Senegal, Seydou a Moussa, yn gadael Dakar am yr Eidal. Ar daith na allai’r un o’r bechgyn fod wedi’i rhagweld, maen nhw’n cychwyn o Orllewin Affrica am Fôr y Canoldir, gan brofi peryglon a harddwch yr anialwch, sioc canolfannau cadw yn Libya, a pheryglon y môr wrth chwilio am fywyd gwell. Mae hon yn stori hynod emosiynol a gonest ar raddfa epig, ond yn un nad yw’n colli golwg ar effeithiau’r argyfwng mudo a dwyster y dioddefaint mae’n ei ledaenu. Gyda chymorth perfformiadau cyfareddol (yn benodol, Seydou Sarr sydd hefyd wedi cyfrannu at y trac sain), a sgript gyda chyfraniadau o adroddiadau uniongyrchol gan fudwyr. Mae’r ffilm bwerus yma gan Matteo Garrone (Gomorrah, Dogman, Tale of Tales) wedi’i henwebu am y Ffilm Ryngwladol Orau yng ngwobrau’r Oscars eleni.

Share