Film

Is There Any Body Out There?

  • 1h 27m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 27m

Prydain | 2023 | 87’ | 12a | Ella Glendining

Mae’r gwneuthurwr ffilmiau, Ella Glendining, sy’n caru’r corff anarferol mae’n byw ynddo, yn chwilio’r byd am berson arall tebyg iddi ac yn archwilio beth sydd ei angen i garu ei hunan yn llwyr, er mor hollbresennol yw ablaeth. Mae Ella, a gafodd ei geni heb gymalau clun a gydag esgyrn y forddwyd byr, cyflwr mor brin fel nad oes llawer o wybodaeth ddibynadwy amdano, yn wynebu gwahaniaethu dyddiol ac yn ein herio i gwestiynu’r ffordd rydyn ni’n gweld eraill, sy’n debyg ac yn wahanol i ni’n hunain. Ffilm ddogfen bwerus a dadlennol sy’n llawn gwybodaeth ac sy’n ymbil o’r galon am gydsafiad. Bydd pob dangosiad yn cael ei ddangos gyda chapsiynau a disgrifiad sain.

Sinema Slime Mother

O glasuron cwlt i ffilmiau diweddar, mae’r detholiad yma o ffilmiau – a ddewiswyd mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer – sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae’r holl docynnau ar gyfer cyfres Sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.

Mae’r ffilm yma, sydd wedi’i dewis mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer, yn rhan o Sinema Slime Mother, sef detholiad o glasuron cwlt a ffilmiau diweddar, sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, ac yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae pob tocyn ar gyfer y tymor yma ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5. I weld mwy o ffilmiau’r tymor yma, ewch i Chapter | Slime Mother.

Share

Times & Tickets