
Film
LFF: The Holdovers
- 2h 13m
Nodweddion
- Hyd 2h 13m
Wrth i ddisgyblion ysgol breifat Academi Barton yn New England adael am wyliau’r gaeaf yn llawn cyffro, mae criw bob-sut sydd heb unman i fynd yn cael eu gorfodi i aros ar ôl.
I wneud pethau’n waeth, yr un sy’n gofalu amdanyn nhw yw’r Athro Hunham (Paul Giamatti) annifyr. Ond wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaen, mae’r athro sarrug yn ffurfio cysylltiad annisgwyl gyda’r disgybl clyfar ond cythryblus Angus (Dominic Sessa) a Mary (Da’Vay Joy Randolph), cogydd yr ysgol sy’n galaru ar ôl ei mab. Mae Alexander Payne yn aduno â’r seren o Sideways, Paul Giamatti, mewn ffilm sy’n taro’r cydbwysedd perffaith rhwng bod yn ddwys ac yn chwareus. Mae The Holdovers yn cynnig yr union fath o waith twymgalon a meddylgar rydyn ni bellach yn ei ddisgwyl gan un o wneuthurwyr ffilm dyneiddiol gorau sinema gyfoes.
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Six the Musical Live!
O Freninesau Tuduraidd i Eiconau Pop, mae gwragedd Harri VIII yn adennill eu stori.
-
- Film
When the Light Breaks (cert tbc)
Mae merch yn ei harddegau’n delio â galar wrth gadw cyfrinach yn y ddrama dyner a phwerus yma.