Events

Meet the Team @ Chapter

  • 2023

2 November-7 December

Free

Nodweddion

  • Blwyddyn 2023
  • Math Any Other Artforms

Cwrdd â’r Tîm, yng Nghyntedd y Sinema. Dewch i gwrdd â’r tîm ar ddydd Iau cyntaf bob mis rhwng 2pm a 4pm.


Galwch heibio am sgwrs anffurfiol dros baned, a manteisiwch ar y cyfle i ddod i nabod ein tîm. Bydden ni wrth ein boddau pe baech chi’n ymuno yn ein sgyrsiau creadigol am y rhaglen sydd ganddon ni yma – dywedwch wrthon ni beth rydych chi’n ei hoffi ac yn ei gasáu, a beth hoffech chi weld mwy ohono! Rydyn ni hefyd yn eich annog i gynnig syniadau, sôn wrthon ni am brosiect sydd gennych chi ar y gweill, gofyn am gyngor ar gymorth ariannu, neu gamau nesaf eich gyrfa.

Rydyn ni’n awyddus i ddweud helo wyneb yn wyneb, i chi gael dod i nabod y wynebau tu ôl i’r enwau, ond rydyn ni hefyd yn hapus i drefnu sgwrs drwy Zoom os na allwch chi ddod i’r safle. Does dim angen archebu lle i ymuno yn y sgwrs, dim ond galw heibio a dweud helo.

Mae tîm y rhaglen yn cynnwys:


Kit Edwards, Curadur Perfformiadau
Hannah Firth, Cyd-gyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Artistig
Molly Harcombe, Cynorthwyydd Rhaglen
Sim Panaser, Curadur y Celfyddydau Gweledol
Arron Singh, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol
Claire Vaughan, Rheolwr Rhaglen Sinema

Share

Amseroedd ac tocynnau