Ffrindiau chapter - Ymunwch â ni yma

Ffrindiau

Film

National Theatre Live: The Motive and the Cue

  • 3h 0m

£11 - £17.50

Nodweddion

  • Hyd 3h 0m
  • Math Contemporary Play

Drama newydd gan Jack Thorne

Cyfarwyddwyd gan Sam Mendes

Sam Mendes (The Lehman Trilogy) sy’n cyfarwyddo Mark Gatiss fel John Gielgud a Johnny Flynn fel Richard Burton yn y ddrama newydd ffyrnig a doniol yma.

1964: Mae Richard Burton, sydd newydd briodi Elizabeth Taylor, ar fin chwarae’r brif ran mewn cynhyrchiad arbrofol newydd o Hamlet ar Broadway, o dan waith cyfarwyddo manwl John Gielgud. Ond wrth i’r ymarferion fynd yn eu blaen, mae dwy oes theatr yn gwrthdaro, a buan y mae’r cydweithio rhwng yr actor a’r cyfarwyddwr yn bygwth datod.

Wedi’i hysgrifennu gan Jack Thorne (Harry Potter and the Cursed Child) a’i dylunio gan Es Devlin (The Crucible). Ffilmiwyd y ddrama, a enillodd wobr yr Evening Standard am y ddrama newydd orau, yn fyw yn ystod rhediad yn y National Theatre a werthodd bob tocyn.

Share

Times & Tickets