Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

I Know Where I'm Going (PG)

  • 1h 33m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 33m

Prydain | Michael Powell, Emeric Pressburger | Roger Livesey, Deborah Kerr


Mae’r Saesnes ddewr Joan Webster yn teithio i bellafion anghysbell Ynysoedd Heledd yr Alban er mwyn priodi diwydiannwr cyfoethog. Mae tywydd garw yn golygu ei bod yn sownd ar Ynys Muile ac yn methu â pharhau i’w chyrchfan, ac mae Joan yn cael ei swyno gan yr ynyswyr di-lol o’i chwmpas. Mae’n cael ei hatynnu’n fwyfwy at y swyddog llyngesol Torquil MacNeil, sydd â chyfrinach a allai newid ei bywyd am byth. Comedi hyfryd sy’n cyfuno llên gwerin yr Alban, dychan ar le menyw mewn cyfalafiaeth, gyda chyffyrddiad ysgafn, dyma chwedl ramantus hudolus.

Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

Welsh Legend: Roger Livesey 

Sefydlodd Powell a Pressburger stiwdio The Archers gyda’r nod o gael y doniau gorau yn y wlad, ac yn rhan allweddol o’r grŵp actio oedd Roger Livesey a aned yn y Barri. Mae llinach actio Livesey yn barod i’w hail-ddarganfod gan Gymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i gyflwyno dwy o’i ffilmiau gorau i chi – ffilm epig wrth-ryfel The Life and Death of Colonel Blimp a’r gomedi ramantus I Know Where I’m Going, gyda sgwrs â darluniau gan yr hanesydd ffilm Mark Fuller gan ddefnyddio eitemau o archif y BFI.  

Share