Film
Perfect Days (PG)
- 2h 5m
Nodweddion
- Hyd 2h 5m
Japan | 2023 | 125’ | PG | Wim Wenders | Japaneeg a Saesneg gydag isdeitlau Saesneg | Kôji Yakusho, Tokio Emoto
Mae Hirayama’n ymddangos yn gwbl hapus gyda’i fywyd syml. Mae’n gweithio fel glanhäwr yn Tokyo, ac yn cymryd balchder yn ei waith; mae’n bwyta nŵdls gan y gwerthwr stryd lleol, mae’n angerddol am gerddoriaeth a llyfrau, ac mae wrth ei fodd â natur, a thynnu lluniau o goed. Ond mae cyfres o ddigwyddiadau annisgwyl yn raddol ddatgelu mwy am ei orffennol ac yn tarfu ar ei drefn ddyddiol strwythuredig. Mae Wim Wenders yn dychwelyd at ddrama naratif ac yn cyflwyno myfyrdod teimladwy a barddonol ar ganfod yr harddwch yn y byd cyffredin o’n cwmpas. Wedi’i henwebu am wobr y Ffilm Ryngwladol Orau yng Ngwobrau’r Academi eleni.
Disgrifiad Sain & Is-deitlau Meddal TBC
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.