Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor
Natalie Portman is dressed as the black swan in the film Black Swan.

Film

Powell & Pressburger: Black Swan

  • 1h 44m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 44m

UDA | Darren Aronofsky 

Natalie Portman, Mila Kunis, Vincent Cassel, Winona Ryder, Barbara Hershey 


Mae Nina yn falerina ddawnus y mae ei hangerdd am ddawns yn rheoli pob rhan o’i bywyd, dan gyfarwyddyd ei mam ddwys sy’n benderfynol y bydd hi’n llwyddo. Pan fydd prif gyfarwyddwr artistig y cwmni bale yn penderfynu disodli ei brif falerina ar gyfer eu cynhyrchiad agoriadol o “Swan Lake”, Nina yw ei ddewis cyntaf. Er bod Nina’n berffaith ar gyfer rhan yr Alarch Gwyn, mae’r newydd-ddyfodiad Lily yn personoli’r Alarch Du. Wrth i gystadleuaeth rhwng y ddwy ddawnswraig droi’n gyfeillgarwch cymhleth, a hithau ar fin troi’n seren, mae ochr dywyll Nina’n dechrau dod i’r amlwg ac mae ei realiti’n troi’n hunllef effro. Ysbrydolwyd y felodrama yma gan The Red Shoes a straeon tylwyth teg eraill Hans Christian Anderson, gyda pherfformiad Natalie Portman yn ennill gwobr Oscar ar ôl dysgu bale ar gyfer y rhan.   

Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

Reciprocal Gestures

Er mwyn gorffen ein tymor o ffilmiau am gelf ac obsesiwn, rydyn ni’n edrych ar gelfyddyd dawns yng ngwaith Powell a Pressburger. Yn y pedwardegau, pan oedd y byd mewn rhyfel ac yn dymchwel, roedd artistiaid o bob math yn arbrofi â’u ffurf. Gan gymryd cam pendant oddi wrth realaeth mewn ffilmiau wedi’r rhyfel, a chwympo mewn cariad â ffantasi, fe greon nhw rai o’u profiadau mwyaf hudol ar y sgrin drwy geisio dod o hyd i ffordd o ddod â’r gwaith mwyaf beiddgar a gogoneddus roedden nhw wedi’i weld ar y llwyfan i sinemâu, lle gellid eu mwynhau gan gynulleidfa ehangach. “Roedden ni wedi bod yn clywed ers degawd y dylen ni fynd allan a marw dros ryddid a democratiaeth,” cofia Powell. “Nawr fod y rhyfel ar ben, dywedodd The Red Shoes wrthon ni i fynd allan a marw dros gelfyddyd.”   

Tua’r adeg yma, roedd animeiddwyr hefyd yn ceisio lledaenu eu hadenydd a chwarae gyda’r ffurf ar gelfyddyd. Gwelwyd arbrofion o baru cerddoriaeth, dawns ac animeiddiad ym Mhrydain gan Halas a Batchelor a gan Walt Disney yn yr UDA.  

Share