Film
Queendom (15)
- 1h 36m
Free
Coming soon
Nodweddion
- Hyd 1h 36m
UDA | Agniia Galdanova | Rwsieg gydag isdeitlau Saesneg
Mae Gena Marvin, artist o dref fach yn Rwsia, yn gwisgo dillad mawreddog ac yn protestio yn strydoedd Moscow, gan lwyfannu perfformiadau radical yn gyhoeddus, sy’n dod yn ffurf newydd ar gelf ac ymgyrchu, ac sy’n peryglu ei bywyd. Mae’n bresenoldeb coegwych a chyffrous, ac nid yw ffitio i mewn yn natur Gena. Mae’r ffilm ddogfen eithriadol yma gan y cynhyrchydd a greodd ffilm graff Welcome to Chechnya yn edrych ar y dewrder a’r cymhelliad i fyw bywyd yn rhydd.