Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Events

Caffi Trwsio Treganna

Free

Coming soon

Nodweddion

Dewch draw i Chapter ar drydydd dydd Sadwrn pob mis lle byddwn ni’n cynnal Caffi Trwsio Cymru.

Casgliad o wirfoddolwyr yw Caffi Trwsio Cymru, sy’n dod at ei gilydd i drwsio eich eitemau am ddim. Eu nod yw lleihau gwastraff, meithrin ymdeimlad o gymuned, ac arbed arian i bobl ar yr un pryd. Felly os oes gennych eitem o’r cartref sydd wedi torri, dewch ag e i’r Caffi Trwsio i’w drwsio am ddim!

Mae gwaith trwsio arferol yn cynnwys: gwaith cynnal a chadw sylfaenol gyda beiciau, trwsio offer trydanol, cymorth gyda chyfrifiaduron, gwnïo, trwsio addurniadau, a gwaith pren, ond byddan nhw’n barod i edrych ar y rhan fwyaf o bethau (heblaw am feicrodonau gan eu bod nhw’n rhy beryglus).

Unrhyw gwestiynau? Anfonwch neges at Caffi Trwsio Cymru ar Facebook ac fe wnawn nhw eu gorau i sicrhau bod rhywun ar gael i drwsio eich eitem. Mae bob amser croeso i fwy o drwswyr - dewch draw i weld beth sy’n digwydd yma, a soniwch wrth eich ffrindiau.

Share