Film
Sain Ffagan 75: John Rea- Atgyfodi
- 2023
- 1h 0m
15 November-15 November
Free
Nodweddion
- Blwyddyn 2023
- Hyd 1h 0m
- Math Art-house/Specialist Cinema
Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon - y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r cof, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.
Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol. Wrth blethu’r rhain gyda chyfansoddiadau cerddorol cyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gof y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes a wnaed yn safleoedd gwreiddiol adeiladau’r amgueddfa. Ceir hefyd recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd fel Tyrone O’Sullivan o Bwll Glo Tower a’r ffermwr Arthur Morris Roberts, a welodd foddi Capel Celyn pan roedd yn fachgen ifanc.
Mae Atgyfodi yn bwrw golau ar gyfoeth traddodiad cerddorol Cymru: Caneuon a straeon sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn. Fe ddylanwadodd gweadau a seiniau’r bywydau yma ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth a phroses greu’r project. Wrth galon y cyfan roedd yr alawon traddodiadol, y farddoniaeth a rhythmau soniarus yr iaith lafar.
Wrth greu cyfansoddiadau mewn ymateb i hyn ac yn ffrâm gerddorol o’u cwmpas, mae’r caneuon gwreiddiol yn datblygu’n felodig a harmonig. Mae lle yma hefyd i gerddorion cyfoes sy’n defnyddio offerynnau traddodiadol Cymreig i ail-ddehongli a byrfyfyrio. Wrth hynny, mae’r ‘cylch’ creadigol yn cael ei gwblhau gan gynnig ail-ddehongliad o hen draddodiadau.
Cyflwynir Atgyfodi gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, perfformiadau ar y crwth, y pibgorn, y ffidil a’r chwiban gan Cass Meurig a Patrick Rimes, a lluniau a delweddau a ffilmiwyd yn arbennig gan Huw Talfryn Walters.
Amdan John Meirion Rea
Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd.
More at Chapter
-
- Film
When Harry Met Sally (15)
Dangosiad nesaf
-
- Film
It’s A Wonderful Life (U)
Dangosiad nesaf
21 Rhagfyr 15:35- IM: Is-deitlau Meddal
-
- Film
The Muppet Christmas Carol (U)
Dangosiad nesaf
17 Rhagfyr 11:50- IM: Is-deitlau Meddal
-
- Film
Tokyo Godfathers (12)
Dangosiad nesaf
16 Rhagfyr 16:15- DS: Disgrifiadau Sain ar gael
- IM: Is-deitlau Meddal