Performance

Theatr Iolo: The Welsh Dragon

  • 1h 0m

£12

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Children/Family

Pan fydd waliau castell yng Nghymru yn dechrau dymchwel oherwydd y ddwy ddraig sy’n byw yn y ddaeargell, dim ond rhywun â threftadaeth Gymreig bur all dawelu’r frwydr... ond sut mae gwybod os yw rhywun yn Gymro ai peidio?

Gyda cherddoriaeth, rap, a thro hanesyddol, mae’r ddrama feiddgar newydd yma i blant yn archwilio llinach ddu Prydain, gan ein herio ni i gwestiynu’r straeon sydd wedi cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn ddoniol, yn gyflym, ac yn procio’r meddwl, mae The Welsh Dragon yn plethu’r myth cyfarwydd gyda gwirioneddau hanesyddol cudd, i archwilio hunaniaeth, ethnigrwydd, a tharddiad pobl ar Ynysoedd Prydain.

Canllaw Oedran: 7-13 oed

Iaith Arwyddion Prydain & Disgrifiad Sain ar ddydd Mercher 9 Hydref, 7.30pm. Iaith Arwyddion Prydain gan Nikki Champagnie Harris ac Disgrifiad Sain gan Michelle Perez.

Y Tîm Creadigol

Awdur: Kyle Lima

Cyfansoddwr: Eadyth Crawford

Dylunydd: Kyle Legal

Share

Times & Tickets

Key

  • DS Disgrifiadau Sain Saesneg ar gael
  • BSL Iaith Arwyddion Prydain