
Performance
Theatre Lyngo: The Little Prince
- 0h 55m
Nodweddion
- Hyd 0h 55m
The Little Prince: cywaith rhwng Theatr Lyngo a Theatr Bypedau Norwich.
'Oes dafad ar seren wedi bwyta rhosyn?' Os yw hynny’n swnio’n ddwl, yna efallai eich bod chi fel y Brenin a’r Dyn Busnes ar eu asteroidau unig, wedi anghofio mai dim ond gyda’r galon y gallwch ddeall y pethau pwysicaf. Mae’r Tywysog Bach yma i’n hatgoffa ni o hyn yng nghywaith newydd Lyngo gyda Theatr Bypedau Norwich. Drwy bypedwaith hudolus a chaneuon hyfryd, mae’r bachgen a gwympodd i’r ddaear yn addysgu ei gyfaill, yr Aviator, am gariad, bywyd, a hapusrwydd go iawn, yn yr addasiad yma o un o’r llyfrau i blant mwyaf poblogaidd erioed.
Plentyn 5+ oed
Cwmni theatr i blant yw LYNGO, sydd wedi’i leoli ym Mhrydain ond sydd â chysylltiadau cryf â’r Eidal. Mae plant ac oedolion wedi ymhyfrydu yn ein sioeau ers ugain mlynedd, gyda’u cymysgedd unigryw o ddelweddaeth hwyliog a hardd, gan weithio’n hudolus gyda’i gilydd i ddatgelu’r byd barddonol byw sydd wrth wraidd ein gwaith.