
Film
CIPOLWG TELEDU A HOLI AC ATEB: DOCTOR WHO
Nodweddion
Mae Ruby’n dysgu cyfrinachau’r Doctor pan mae e’n mynd â hi i ddyfodol lle mae babanod a’r Bogeyman.
Ymunwch â ni i wylio pennod gyntaf ‘Space Babies’ o gyfres newydd Doctor Who cyn iddi gael ei darlledu ar 11 Mai, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn i drafod creu’r gyfres.
Siardwyr:
Joel Collins (uwch gynhyrchydd)
Pam Downe (cynllunydd gwisgoedd)
Phil Sims (cynllunydd cynhyrchu)
Vicki Delow (cynhyrchydd cyfres)
Sgwrs dan ofal - Steffan Powell
Cynhyrchir Doctor Who gan Bad Wolf gyda BBC Studios ar gyfer y BBC a Disney.
Mae’r digwyddiad hwn mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales.
Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn gyda rhywun o dan 18 oed, anfonwch e-bost at [email protected] cyn y digwyddiad. Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, bydd angen i’r rhiant neu warcheidwad gadarnhau wrth BAFTA eu bod yn fodlon i’r unigolyn ddod i’r digwyddiad a llofnodi ffurflen ganiatâd. Ni fydd modd i ni dderbyn neb o dan 18 oed i’n digwyddiad heb ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad.
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Mr Burton (12A)
The moving story of how wild Richie Jenkins became one of the greatest actors in the world.
-
- Film
Six the Musical Live!
O Freninesau Tuduraidd i Eiconau Pop, mae gwragedd Harri VIII yn adennill eu stori.
-
- Film
Warfare (15)
Stori ddirdynnol a phwerus am filwyr ar genhadaeth yn Irac mewn amser go iawn.