
Cymru – Cenedl Noddfa?: Sgwrs gyda Cyfiawnder Tai Cymru ac ymgyrchwyr
Nodweddion
2-3.30pm | Am ddim, does dim angen archebu
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynllun Cenedl Noddfa yn 2019. Nod y cynllun yw cynnig ‘ymateb Cymreig unigryw’ i bobl sy’n chwilio am loches, a helpu pobl i osgoi tlodi ac amddifadedd. Mae'n uchelgais glodwiw, ond a allwn ni ddweud yn onest bod Cymru yn genedl noddfa?
Rydyn ni'n gwybod bod pobl sy'n chwilio am noddfa yn gallu mynd yn sownd mewn byd ansicr, mewn tai o ansawdd gwael a heb hawl i weithio. Mae'r polisi Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus yn eithrio ceiswyr noddfa o wasanaethau, gan eu caethiwo mewn byd o dlodi, amddifadedd a digartrefedd.
Bydd y digwyddiad yma’n gofyn, beth sy'n digwydd i bobl ddiymgeledd? Sut ydyn ni'n sicrhau bod gan bawb yng Nghymru dai digonol? A sut allwn ni wir wneud Cymru yn gartref i bawb?
___
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.
Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.