Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Performance

Gŵyl Fwrlésg Cymru 2024

  • 384h 0m

£0 - £24

Nodweddion

  • Hyd 384h 0m

Mae Gŵyl Fwrlésg Cymru yn cynnal pedair sioe dros bedair noson. Er mwyn archebu ar gyfer y perfformiadau eraill, cliciwch yma

Ymunwch â FooFoo Labelle a Chlwb Cabaret Caerdydd am bedair sioe anhygoel yn ogystal â gweithdai cyffrous, mewn dathliad pefriog o fwrlesg.

Ymhyfrydu yn nhalent sêr Cymru, ac eiconau ar y gweill ochr yn ochr â rhai o artistiaid cabaret a bwrlesg gorau'r DU.

Gwisgwch yn eich goreuon, cymerwch ddiod, a chewch eich cludo i fyd tanbaid o hudoliaeth, comedi a strip-bryfocio.

Mae Clwb Cabaret Caerdydd wedi bod yn rhan annatod o fyd celfyddydol Caerdydd ers 2007. Dan arweiniad grym natur, FooFoo Labelle, mae’r gymuned ryfeddol hon o ddawnswyr a pherfformwyr lleol wedi diddanu mewn dros 250 o sioeau cabaret amrywiol, cyffrous dros yr 16 mlynedd diwethaf. Mae ethos y clwb yn hybu iechyd corfforol a meddyliol, magu hyder, positifrwydd y corff a datblygu talent, gyda’i raddedigion i’w gweld ar lwyfannau cabaret ar draws y wlad.

Rhaglen:

Big ‘Diff Energy!- £18. Iau 22 Awst, 7.30yh.

Mae Gŵyl Fwrlésg Cymru yn dechrau gyda dathliad brwd o gabare Cymreig ac mae yna wahoddiad i chi i gyd! Fe’i cynhelir gan FooFoo Labelle ei hun a bydd yn cynnwys talentau lleol a rhai ffrindiau. Byddech yn wirion i’w cholli! Byddwch yn barod am gomedi, glamor, gwisgoedd pefriog a dwli wrth inni ddarganfod beth sy'n gwneud Cymru mor hudol.

Future Icons - £18. Gwener 23 Awst, 7.30yh.

Ymunwch â Gŵyl Fwrlésg Cymru am noson i'w chofio wrth i sêr bwrlésg y dyfodol berfformio trwy gyfrwng diemyntau ffug, stripio, comedi, a llu o dalentau anhygoel eraill, er mwyn cael eu coroni’n 'Eicon y Dyfodol' yng Ngŵyl Fwrlés Cymru 2024. Dewch i weld hanes yn cael ei greu a darganfyddwch eich hoff berfformiwr newydd. Byddwch yn barod am ddigon o egni, syrpreisys gwirion a golygfeydd nad ydych chi efallai erioed wedi’u profi o’r blaen.

Gala Show - £24. Sadwrn 24 Awst, 7.30yh.

Ymunwch â Gŵyl Fwrlésg Cymru am sioe gala befriog sy'n arddangos rhai o artistiaid bwrlésg a chabare mwyaf nodedig y DU. Gwisgwch i greu argraff, bachwch ddiod, a dewch am noson bleserus o glamor, comedi a syrpreisys. Bydd y cyfan dan arweiniad y gomedïwraig
arobryn a’r eicon fwrlésg o’r iawn ryw, Titsalina Bumsquash, a bydd yn cynnwys artistiaid mwyaf nodedig sin y DU heddiw. Byddwch yn barod am ddigon o ddisgleirdeb, a syfrdandod a dwli mewn noson i'w chofio wrth i Ŵyl Fwrlésg Cymru eich cyflwyno i rai o'i hoff berfformwyr.

Sunday Speakeasy - £18. Sul 25 Awst, 7.30yh.

Ymunwch â Gŵyl Fwrlésg Cymru a dewch i'r cabare er mwyn ymlacio ar gyfer y penwythnos! Dewch i gael eich cludo i’r oes jas gyda’r Charleston a’r chwerthin, wrth i'n cast o greaduriaid coeth dynnu eich meddwl oddi ar fore Llun ac ymestyn danteithion y penwythnos. Yn cynnwys sioeferched a ‘songbirds’ llawn profocio a difyrrwch, bydd y cyfan dan arweiniad yr eicon benigamp, Miss Whiskey Twist.

Mae sioeau Gŵyl Fwrlésg Cymru ar gael i'w harchebu yn unigol neu fel nifer cyfyngedig o Docynnau Gŵyl VIP, sy'n cynnwys pob un o'r pedair sioe, gostyngiad ar nwyddau, a bag anrhegion. Hefyd, mae amrywiaeth o weithdai gyda pherfformwyr Bwrlésg profiadol i’ch cael i siglo, ysgwyd a gwenu. Tocynnau Gŵyl VIP ar gael i brynnu fan hyn neu ar diwedd y tudalen hon.

Cliciwch yma i archebu tocyn ŵyl VIP i'r 4 sioe gyfan neu archebu tocynnau ar ben ei hun isod.

Burlesque artform showcases and embraces adult themes, partial nudity and strong language.

Share

Times & Tickets