Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Art

We Stand With You – arddangosfa gyda Common/Wealth

Nodweddion

1-6pm I Am ddim, does dim angen archebu

Mae Common/Wealth yn dod â’r artistiaid Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter, a Jon Pountney ynghyd ar gyfer arddangosfa newydd, sef We Stand With You. Mae gan bob darn o waith wreiddiau dwfn yng Nghaerdydd, gan amlygu cryfder, harddwch, a gwytnwch ei chymunedau. O ofodau domestig clòs cymuned Fangladeshaidd Caerdydd, i gyd-ofodau Grangetown, mae’r arddangosfa’n bortread personol a theimladwy o’r brifddinas.

Yn achos y pum artist, dyma fydd eu tro cyntaf yn arddangos yn Chapter. Mae We Stand With You yn cynnwys ystod amrywiol o gyfryngau – gan gynnwys tecstilau, peintio a ffotograffiaeth – ac yn archwilio gorffennol, presennol a dyfodol Caerdydd. Mae’r gwaith yn myfyrio ar gyd-destun hanesyddol y ddinas a straeon teuluol personol yr artistiaid, gan bwysleisio ar yr un pryd alwadau dybryd am gyfiawnder a newid.

Mae’r arddangosfa’n ymateb i Grenfell gan Steve McQueen ac yn cyd-fynd â’n rhaglen ehangach, sy’n archwilio themâu tai, cyfiawnder cymdeithasol, dosbarth, hil ac undod. Mae We Stand With You yn fyfyrdod ac yn ddathliad – yn anrhydeddu pobl Caerdydd a’r amrywiaeth gyfoethog sy’n gwneud ein dinas yn arbennig.

___

Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.

Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.

Share