Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Gareth Evans

Mae gan Gareth Evans bellach bron bedwar degawd o brofiad yn y byd creadigol a darlledu, ac mae ganddo swyddfa yn Chapter ers 2001. Gweithiodd yn gyntaf fel ymchwilydd a chynhyrchydd radio ar gyfer BBC Radio Cymru, cyn troi ei law at sgriptio, a bu’n is-olygydd sgript gyda’r gyfres sebon ‘Dinas’.

Wedi cyfnod yn Sbaen a’r Almaen, yn gweithio fel cynhyrchydd radio a storïwr ar gyfer sebon Almaeneg, dychwelodd i Gymru. Ers hynny, bu’n gweithio’n bennaf fel sgriptiwr a storïwr i’r gyfres hirdymor ‘Pobol y Cwm’. Yn ogystal, derbyniodd gomisiynau amrywiol ac ymgymerodd â phrosiectau eraill gan gynnwys sgriptiau ffilmiau nodwedd a theledu, yn ogystal ag ysgrifennu a chyfarwyddo ffilmiau byrion. Bu hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd sgript. Yn gymharol ddiweddar, mentrodd Gareth i faes rhyddiaith.

Roedd ei nofel gyntaf ar gyfer yr arddegau, “Gethin Nyth Brân”, ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2018. Ers hynny cyhoeddwyd nofel arall, “Y Pibgorn Hud”, y gyntaf mewn trioleg wedi ei lleoli yn Britonia, y wladfa led anhysbys honno oedd yn fath o Lydaw fechan yng ngogledd Sbaen y 6ed ganrif. Cyhoeddir yr ail a’r drydedd rhan ddiwedd 2022 a 2024. Mae cyfieithiad Saesneg o’i waith, gan y nofelydd Jane Burnard, eisoes wedi ymddangos ac mae rhagor yn yr arfaeth. Mae ganddo nifer o syniadau yn y drôr, ac felly nid oes eto pall ar ffrwyth ei ddychymyg – hyd yma, beth bynnag!

Gellir cysylltu â Gareth drwy e-bost: [email protected]