Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Chapter’s April Highlights

Rydyn ni’n dod â dwy ŵyl wych i chi i ddathlu dechrau’r gwanwyn!

O dan y thema Galwad i’r Gwanwyn’, cynhelir ein gŵyl gelf fyw bedwar diwrnod, Experimentica, sy’n digwydd bob dwy flynedd, rhwng 11 ac 14 Ebrill ac mae’n nodi troad y tymhorau tuag at fywyd newydd. Rydyn ni’n gwahodd artistiaid a chymunedau i ymuno â ni i ddathlu’r foment fywiog yma o arfer arbrofol gan arddangos gwledd o waith comisiwn newydd gan gynnwys perf­formiadau, ail-greadigaethau, gweithdai, cynulliadau a dangosiadau.

Rydyn ni hefyd yn falch iawn o fod yn gweithio mewn part­neriaeth â Gŵyl Animeiddio Caerdydd unwaith eto i gyflwyno llu o sesiynau holi ac ateb gwych, gweithdai animeiddio a dangosiadau o dan y thema trît’. Ymhlith yr uchaf­b­wyntiau mae 96 o ffilmiau byrion o 23 o wledydd, yn ogystal â ffilmiau nodwedd wedi’u hanimeiddio, rhai o brif artistiaid animeiddio’r byd yn rhannu eu harbenigedd — a hyd yn oed cyfle i greu eich ffilm eich hunan i’w harddangos yn yr ŵyl!

Os na fyddwch chi’n gallu gweld drama anhygoel Nye ar y llwyfan, rydyn ni’n ffrydio perfformiad NT Live yn ein sinema! Ymunwch â Michael Sheen fel yr arwr Aneurin Bevan ar daith anhygoel drwy ei fywyd wrth iddo drawsnewid gwlad­wriaeth les Prydain a chreu’r GIG.

Cyflwynwch eich plant bach i’r theatr gyda phypedwaith hudolus a cher­d­doriaeth hyfryd The Little Prince gan Theatr Lyngo. Ymunwch â’r bachgen a gwympodd i’r ddaear wrth iddo ddysgu ei gyfaill am gariad, bywyd, a hapusrwydd go iawn, yn yr addasiad yma o un o’r llyfrau plant mwyaf poblogaidd.

Ar ôl rhyddhau eu halbwm gyntaf yn ddiweddar, mae Muriel yn dychwelyd i gloi noson arall! Dewch i fwynhau eu seinweddau emosiynol cynnes a’u lleisiau haenog gyda ffilm arbennig gan y ffo­to­graffydd a’r gwneuthurwr ffilm o Gaerdydd, Jake Rowles.

Yn yr oriel a bwlch golau, mae arddangosfa unigol Adham Faramawy: In the simmering air and the flows of the under­current, yn archwilio’r cysylltiad rhwng tir, afonydd a llifoedd mudol yn eu gweithiau fideo, paentiadau a cherfluniau diweddar. Mynediad am ddim, tan 23 Mehefin.

Rydym wrth ein moddau i weithio gyda Now in a Minute Media i gynnal Iftar cyntaf Chapter. Mae Iftar yn ddathliad arbennig trwy gydol Ramadan, a fydd ein digwyddiad yn gwbl a lineup gwych o siaradwyr, beirdd ac artistiaid. Rydym yn gwahodd chi i wrando, a thorri bryd gyda’r gymuned Fwslim. Does dim ots pa gefndir, ffydd, neu dim ffydd, maw croeso i bawb i brofiad y rhan arbennig yma o ddydd Fwslemiaid yn ystod Ramadan.

I sicrhau bod pawb yn teimlo’n croeso yn Chapter, am 2 Ebrill, 12-cau, na fyddwn yn werthu alcohol, neu’n caniatáu i’w ddwyn i mewn i’r adeilad, ond yn lle byddwn yn gwerthu dewis cyffroes o sydd a moctels, perffaith i bob ymwelwr.

  • Published: