Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Performance

Muriel

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Ar ôl rhyddhau eu halbwm gyntaf dan yr un enw â’r band ’nôl ym mis Hydref, mae Muriel yn dychwelyd i gloi’r noson am yr ail waith yng Nghaerdydd.

Prosiect recordio’r artist lleol o Gaerdydd, Zak Thomas, oedd Muriel i ddechrau. Dros amser, mae llwyth o ffrindiau a cherddorion wedi ymuno â Zak, gan gynnwys Rachel Crabbe, Andy Oliveri, Will Davies, Jamie Joiner, Tom Bromley, Holly Carpenter a Xavier Boucherat.

Mae seinweddau emosiynol a gwresog Muriel yn llawn dwyster, gan ymgorffori trefniannau gitâr glasurol ac i gitâr drydan, gyda haenau o leisiau a geiriau mewnsyllol sy’n cyffwrdd â themâu fel galar, iachâd a chwilfrydedd ysbrydol.

Yn cyd-fynd â’r perfformiad arbennig bydd ffilm gan y ffotograffydd a’r gwneuthurwr ffilm o Gaerdydd, Jake Rowles.

Following their recently released self-titled debut album back in October, Muriel return for their second headline show in Cardiff.

Share