Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Performance

Papa Jupe's TC: Jupe in the Flesh

  • 0h 35m

£10 - £12

Nodweddion

  • Hyd 0h 35m

Gyda dylanwadau ôl-bync, syrffio, disgo, a gospel, mae Papa Jupe’sT.C., yn cyflwyno eu EP sydd newydd ei ryddhau – Jupe in the Flesh. Cloddiwch fewn i berfformiad slebogaidd y band 7-darn o Gaerdydd wrth iddyn nhw ddychanu gwrywdod, gwleidyddiaeth a grym.

Mae’r band wedi bod yn rym eginol yn y sin gerddoriaeth Gymraeg fywiog, gydag enw da cynyddol am berfformiadau byw theatrig.

Yn ogystal â bod ar restr fer Cystadleuaeth Greenman Rising, mae’r band hefyd wedi cefnogi’r ceffylau blaen indie English Teacher ar eu prif daith o amgylch y DU, wedi ymddangos yn nigwyddiad Codi Arian 2023 Trans Aid Cymru ac wedi chwarae cyfres o brif gigs lle y gwerthwyd yr holl docynnau.

Mae Papa Jupe’s T.C. yn eich gwahodd i ymuno â chwlt Papa Jupe. Daw achubiaeth i'r rhai sy'n aros. Ymunwch â'r Tarw.

Share

Times & Tickets