
Chapter’s June Highlights
- Published:
Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n arddangos ac yn dathlu artistiaid cwiar ar draws ein rhaglen, ac nid yw mis Mehefin yn wahanol!
Dewch i ddathlu’r cylch bywyd blynyddol ac arferion a defodau gwerin Cymru ym mhrosiect coreograffi diweddaraf Osian Meilir, Mari Ha! Mae’n cyfuno’r Fari Lwyd a Cadi Ha i greu perfformiad dawns enigmatig.
Ymunwch â’r gwneuthurwr theatr Harry Mackrill mewn perfformiad un i un unigryw sy’n archifo profiadau digofnod pobl ifanc LHDTC+ o Adran 28, 1988-2003.
Ewch i'n sinemâu i weld dangosiad arbennig MovieMaker Chapter ar 4 Mehefin sy’n cynnwys ffilmiau sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ffilm Fer Gwiar 2025.
Rydyn ni hefyd yn dangos ffilm sydd wedi’i gwneud yng Nghymru gyda Gillian Anderson a Jason Isaacs, sef The Salt Path.
A chofiwch am Ŵyl Ffilmiau SAFAR rhwng 20 a 27 Mehefin, sef prif lwyfan sinema annibynnol Arabaidd gwledydd Prydain.