
Uchafbwyntiau mis Hydref
- Published:
Mae ’na raglen gelf newydd lawn yn cael ei lansio fis yma, lle byddwn ni’n croesawu Ntiense Eno-Amooquaye i’r oriel gyda’i chorff newydd o waith, Crashing the Glass Slippers. Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffiaeth, perfformiadau, arlunio, ffasiwn a thecstilau. Dale Holmes: Toilscape for Lithic Child yw ein harddangosfa Celf yn y Caffi ddiweddaraf, a beth am fynd draw i weld blodau melyn Mair euraidd Jade de Monstserrat ar draws ein mynedfa?
Mae tymor perfformiadau’r hydref/gaeaf yn amrywio o berfformiadau, sgyrsiau, gweithdai, partïon, a digwyddiadau arbennig i ganfod cymuned a meddwl yn feirniadol ac ar y cyd am y ffyrdd rydyn ni’n byw. I ddod fis yma mae Goner gan Marikiscrycrycry, sy’n dilyn ffigwr ar daith goreograffig synhwyrus, llawn tyndra. Mae Cymuned Dawnsfa Cymru yn dod yma â’u dawnsfa Bad B Kiki dros benwythnos Calan Gaeaf, ac wedi hynny, bydd Ocean Hester Stefan Chillingworth yn cyflwyno Blood Show: dathliad traws o ddinistrio pethau, gan gynnwys ein hunain, i greu rhywbeth newydd.
Mae tymor y gwyliau ffilm yn lansio yn yr hydref gydag arlwy gyffrous o ffilmiau o bob rhan o’r byd, gan gynnwys ein gŵyl gartref Gŵyl Animeiddio Japan: Kotatsu ar 5-6 Hydref. Ymunwch â ni ar gyfer y ffilmiau LHDTC+ gorau gyda Gwobr Iris ddydd Sul 13 Hydref, lle byddwn ni’n dangos Goreuon Iris 2024, Vera and the Pleasure of Others a Perfect Endings.
-
- Ffilm
Two Strangers Trying Not To Kill Each Other (15)
Ffilm ddogfen ddewr a phersonol am gwpl yn ymdrin â heneiddio a’r broses greadigol.
Dangosiad nesaf
-
- Ffilm
Santosh (15)
Mae cwnstabl benywaidd naïf yn cael ei thynnu i fod yn rhan o ymchwiliad yng nghefn gwlad India.
Dangosiad nesaf
-
- Ffilm
Opus (15)
Mae newyddiadurwraig ifanc yn cael ei gwahodd i gyfweld â seren bop meudwyaidd yn y ddrama ryfedd yma.
Dangosiad nesaf
-
- Ffilm
Flow (U)
Mae cath yn uno gydag anifeiliaid eraill yn y chwedl amgylcheddol deimladwy a syfrdanol yma.
Dangosiad nesaf
-
- Ffilm
Ffilmiau Byrion Comedi’r Gwanwyn 2025
Ymunwch â ni ar gyfer ffilmiau byrion gwych o Gymru a thu hwnt a gyflwynir gan Ben Partridge.
Dangosiad nesaf
-
- Ffilm
David Lynch: The Elephant Man (12A)
Golwg teimladwy ar fywyd John Merrick a’r bobl a gymerodd fantais arno.
Dangosiad nesaf
-
- Ffilm
Dig! XX (15)
Chwedl am ddau fand cystadleuol ar ei newydd wedd; un o’r ffilmiau dogfen roc gorau erioed.
Dangosiad nesaf
-
- Ffilm
The Short Films of David Lynch (15)
A collection of visionary director David Lynch's short films from the first 29 years of his career is accompanied by a special introduction to each film by the director himself.
Dangosiad nesaf
-
Two Strangers Trying Not To Kill Each Other (15)
- Ffilm
- 15
-
Santosh (15)
- Ffilm
- 15
-
Opus (15)
- Ffilm
- 15
-
Flow (U)
- Ffilm
- U
-
Ffilmiau Byrion Comedi’r Gwanwyn 2025
- Ffilm
-
David Lynch: The Elephant Man (12A)
- Ffilm
- 12A
-
Dig! XX (15)
- Ffilm
- 15
-
The Short Films of David Lynch (15)
- Ffilm
- 15