Performance

Marikiscrycrycry: Goner

  • 0h 55m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 0h 55m

Oedran: 16+ | Disgrifiad Sain gan Ioan Gwyn | Iaith Arwyddion Prydain gan Ali Gordon.

Y Goner yw rhywun y mae pethau ar ben arnyn nhw, heb obaith o oroesi—yn rhwym i farwolaeth, yn achos coll ac anobeithiol. 

Mae’r gwaith yma’n dilyn y ffigwr yma ar daith synhwyrus, gafaelgar a choreograffaidd ofnadwy i ddyfnderoedd seicolegol erchylltra Goner. Gan gyffwrdd yn ysgafn â phynciau camdriniaeth, mudo Caribïaidd, dieithrio, perthyn, caethiwed, a thrais, mae Goner yn defnyddio offer ffurfiol awduraeth unigol ac estheteg arswyd i greu diwylliant gweledol radical o’r safbwynt ymylol, ac i ganfod a sefydlu traddodiad Du o arswyd ar gyfer y cyd-destun byw. Sut ydyn ni’n edrych ar naratifau diwylliannol benodol yn erbyn cefndir o arswyd gwefreiddiol, gwaedlyd a seicolegol? 

Rhybuddion Cynnwys: Mae'r sioe yma yn cynnwys iaith gref, goleuadau fflachio, niwl, cyfeiriad llafar i ryw, cyfeiriad llafar i lofruddiaeth, synau uchel gan gynnwys ergydion gwn, themâu a phynciau sensitif, noethni rhannol, trais, a gwaed efelychiad.

___

Gweithdy symudiad am ddim: Lookin’ Like An Icon’
Dydd Iau 17 Hydref, 2-4pm
Ar agor i nawb

Ymunwch â Marikiscrycrycry mewn gweithdy dawns sy’n archwilio’r masnachol a’r myfyriol, wedi’i lunio o gwmpas yr arfer o hunan-wireddu. Beth mae bod yn eiconograffeg yn ei olygu? Mae’r gweithdy yma ar agor i bob lefel sgil a phrofiad. Bydd yn dibynnu ar ddawnsio fel arfer myfyriol, ac fel injan i deimlo’n gyflawn drwy symudiad. Bydd cyfranogwyr y gweithdy’n cymryd rhan mewn arferion myfyriol, hyfforddiant a chyflyru corfforol, a gwaith coreograffig cymhleth. Byddwch yn eicon i chi eich hunan. Ysbrydolwch y person tu mewn i chi. Allanolwch eich ofnau, a gadewch iddyn nhw ddiferu i’r llawr. Gadewch iddo faethu eich corff-meddwl-enaid. Byddwch chi’n chwysu. A bydd yn teimlo’n dda.

I archebu, cysylltwch â kit.edwards@chapter.org.

Share