Haf yn ein oriel

  • Published:

Dyma’ch cyfle olaf i weld gwaith Imogen StidworthyNina Thomas, dau artist sy’n gofyn i ni ymgy­far­wyddo â gwahanol amleddau o gyfathrebu. 

Yr haf yma, rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu Roy Claire PotterLu Williams a fydd yn ein gwahodd i ddychmygu dyfodolau amgen. 

Darllenwch fwy i ddysgu am yr arddangosfeydd… 

Roy Claire Potter: COMMS FAIL

Mae wedi’i lywio gan ddull awtistig o gyfathrebu, lle nad geiriau yn unig sy’n cario ystyr ond patrwm, rhythm, gwead ac amgylchedd. Mae sain yn symud drwy wrthrychau, arwynebau a chyrff.

Mae COMMS FAIL yn brosiect esblygol, gan symud ar draws perfformiadau, radio, arddangosfeydd a chyhoeddi, gyda phob fersiwn yn adeiladu ar y diwethaf. Mae’r cam yma’n ehangu ar berfformiad byw a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn Lerpwl ac a ddarlledwyd ar Resonance FM, mewn amgylchedd gwrando dros gyfnod o fis.

Artist ac awdur yw Roy, y mae eu gwaith yn cynnwys ysgrifennu arbrofol, perfformiadau lleisiol, arlunio, celf sain a gosodwaith. Mae eu gwaith yn archwilio cyfyngiadau cyfathrebu, is-destun, a deinameg grŵp cymhleth – yn aml â hiwmor bwriadol.

Ymunwch â ni ddydd Gwener 26 Mehefin, 6-8yh i ddathlu’r agoriad.

Lu Williams: Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs

Gan ddefnyddio templedi cylchgronau a phosteri, mae Lu yn eich gwahodd i gyfrannu at osodwaith esblygol sy’n dychmygu sut olwg allai fod ar y byd mewn cannoedd o flynyddoedd.

Artist sy’n gweithio ar draws cerflunwaith, print, cylchgronau a phrosiectau cymdeithasol yw Lu Williams. Mae eu harfer yn archwilio hanes cymdeithasol, llafur, a hygyrchedd drwy lens cwiardod, niwroamrywiaeth, a phrofiad dosbarth gweithiol.

Ymunwch â ni yn y dathliad agoriadol nos Wener 29 Mai 6–8pm. Gallwch greu creiriau magnet, ychwanegu at y gwaith celf, a chael tatŵ dros dro! Galwch heibio am ddim.

Nina Thomas: The Broken Speaker

Mae The Broken Speaker gan Nina Thomas, sydd i’w weld yn ein caffi bar, yn ailystyried sut rydyn ni’n deall sain a llais drwy lens byddar.

Mae’r ffilm fud yma’n defnyddio capsiynau i dynnu sylw at anadl, oedi a’r gofodau rhwng geiriau, gan ein gwahodd ni i wrando’n ofalus a chanfod cyd-ddealltwriaeth mewn mannau annisgwyl. 

Imogen Stidworthy: In a thread of air

Drwy osodwaith a ffilm, mae Imogen yn archwilio beth yw ystyr bod â llais, a beth yw ystyr gwrando, gan ein gwahodd ni i edrych ar gyfathrebu y tu hwnt i eiriau, drwy ystum, rhythm ac awyrgylch. 
 
Mae ein sesiynau gweld mewn grŵp yn cynnig lle i gyd-fyfyrio’n anffurfiol dros baned. 

Ymunwch â ni hefyd ar gyfer darn dawns byrfyfyr gan Academi Hijinx mewn ymateb i’r gosodwaith Balayer – A Map of Sweeping.