Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Uchafbwyntiau Mis Hydref

  • Published:

Iris Prize 2023: Chuck, Chuck Baby

Mae’n dymor arswyd a gennym ni llawer o ddanteithion blasus yn aros i chi!

Mae ein sinemâu llawn gwyliau ffilm gan gynnwys Gŵyl Animeiddio Japan Kotatsu, Gŵyl Ffilm Llundain, a Gwobrau Iris. Heb anghofio am Galan Gaeaf, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn cynnal Scarygirl a gennym ni The Canterville Ghost.

Rydyn ni’n eich gwahodd ailddarganfod y gwaith o Powell & Pressburger fel rhan o’r tymor BFI ac i ddathlu'r gydran allweddol o’i ffilmiau, y chwedlonol Gymraeg Roger Livesey, wrth i ni blymio i mewn i’r themâu a’r gelfyddyd o’r stiwdio ffilm Brydeinig gorau.

Cyflwynwyd Theatr Iolo Owl at Home, gyda gweithgaredd celf a chrefft am ddim ar ôl y perfformiadau i’r gynulleidfa mwynau, y ffordd berffaith i wario eich bore neu brynhawn yn ystod yr Hydref!

Mae’r tymor o symud a dawns, Reciprocal Gestures yn parhau yn ein theatr, gyda Seke Chimutengwende: It Begins In Darkness ac Emilyn Claid: UNTITLED. Rhaglen wedi’i churadu o berfformiadau rhwng mis Medi a mis Rhagfyr sy’n dathlu eiliadau a rennir ac archwiliadau o wrywdod, bod yn cwiar, heneiddio, bywyd wedi gwladychiaeth, agosatrwydd a chymuned, gyda pherfformiadau a digwyddiadau.

Mae Artes Mundi yn dathlu ei degfed arddangosfa ac yn cymryd dros ein Horiel, Celf yn y Caffi a'r Bwlch Golau, ac yn gweld Carolina Caycedo, Taloi Havini a Nguyễn Tinh Thi yn cyflwyno ei phrosiectau unigol mawr.

FFILM

Tymor BFI: Powell and Pressburger

undefined

Kotatsu: Gŵyl Animeiddio Japan 2023

30 Medi & 1 Hydref

Gŵyl Ffilm Llundain 2023

4-14 Hydref

Gwobrau Iris 2023

Sul 15 Hydref

Goreuon Iris

Sul 15 Hydref, 2.30yp

Chuck, Chuck Baby

Sul 15 Hydref, 5.30yh

Femme

Sul 15 Hydref, 8yh

PERFFORMIAD

Reciprocal Gestures: tymor o symud a dawns

Seke Chimutungwende: It Begins In Darkness

Sul 8 Hydref, 7.30yh

Ymunwch â Seke Chimutengwende, Adeola Dewis, ac June Campbell-Davies am sgwrs ar ôl y perfformiad, yn ein cyntedd theatr o 8.30yh. Iaith Arwyddion Prydain wedi'i darparu gan Nez Parr.

Emilyn Claid: UNTITLED

Sadwrn 21 Hydref, 7.30yh.

Ymunwch Emilyn Claid a Kit Edwards, ein Curadur Berfformiad mewn sgwrs ar ôl y perfformiad, yn y Theatr o 9yh.

CELFYDDYD

Rosa-Johan Uddoh: Ye Olde Group Chat Closing Event

Sadwrn 7 Hydref

Ymunwch â ni a'r artist Rosa-Johan Uddoh i ffarwelio â'r cynlluniad clytwaith o Balthazariaid sydd wedi cynnull ar ochr adeilad Chapter.

Bydd ddarlleniadau gan Rosa am 3.30yp o'i llyfr Practice Makes Perfect, sy'n canolbwyntio ar themâu am hunan-gariad radical, wedi'i ysbrydoli gan arfer ac ysgrifennu ffeministiaidd du.

Llun: Simonn Ayre am Chapter 2023

Artes Mundi 10

Gwener 20 Hydref 2023 – Sul 25 Chwefror 2024

Yn AM10 bydd pob artist yn cyflwyno prosiect unigol mawr, gan gynnwys cynyrchiadau newydd, gwaith nas gwelwyd o'r blaen a chyfle i weld sawl arddangosfa am y tro cyntaf yn y DU. Mae rhai artistiaid yn cyflwyno ar draws nifer o leoliadau, a bydd gan bob artist waith mewn lleoliad yng Nghaerdydd. Yn gyflwyno yn Chapter ardraws yr Oriel, Celf yn y Caffi ac yr Blwch Golau yw Carolina Caycedo, Taloi Havini, Naomi Rincón Gallardo ac Nguyễn Trinh Thi.

Mae Hear We Are wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prosiect y Flwyddyn 2023 Gwobrau'r Loteri Genedlaethol!

Mae Hear We Are wedi cael eu dewis o blith 3,750 o fudiadau ledled Prydain i fod ar y rhestr fer, er mwyn cyrraedd cam pleidlais y cyhoedd yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n dathlu pobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.   

Prosiect o dan arweiniad pobl Fyddar yw Hear We Are, sydd wedi cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n archwilio safbwyntiau rhyngblethol pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y sector creadigol, neu sydd wedi’u heithrio ohono. Gan archwilio sut gall safbwyntiau a phrofiadau’r cyfranogwyr ddod at ei gilydd i greu newid cadarnhaol, maen nhw’n gweithio i wella mynediad at y sector ar gyfer pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, drwy agor deialog a chreu strwythurau cymorth a chyflwyno mawr eu hangen.

Er mwyn pleidleisio am Hear We Are, ewch i lotterygoodcauses.org.uk/awards a dewiswch Hear We Are.  Neu defnyddiwch yr hashnod Twitter #NLAHearWeAre. Mae’r bleidlais ar agor rhwng 9am 11 Medi a 12pm 9 Hydref.

Printhaus

Dydd Agored Printhaus

Sadwrn 21 Hydref, 11yb – 4yp.

Dydd llawn hwyl ac ymlacio am yr holl deulu, nag oes angen unrhyw brofiad ac mae mynediad am ddim!

Gallwch ddisgwyl digonedd o weithgareddau i drio allan, gyda'r gelf wedi'i seilio ar y thema o 'Hydref'. Byddwn hefyd yn rhoi taith o gwmpas y stiwdio hefyd.