Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor
A portrait of a person wearing glasses, surrounded by signs with words on, such as confused, addict, man, activist, and other descriptions.

Performance

Das Clarks: A Brief History of Difference

  • 1h 5m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 5m

Mae bod yn wahanol yn beth cymhleth. Gall fod yn gyffrous, yn ofidus, yn ysbeidiol, yn barhaol, yn rhyddhaol, yn beryglus, yn boenus, yn achos dathlu. Mae’n ymwneud â chyrff ac iaith, atgofion a labeli, canfyddiadau a rhagdybiaethau, derbyniad a gwrthsafiad. Ymunwch â DAR, ffanatig Talking Heads canol oed, cwiar, niwroamrywiol, a chwilfrydig, i ystyried cwestiynau anodd am wahaniaeth, hunaniaeth, lleoli, labelu, a pherthyn.

Wedi’i gyflwyno gan Das Clarks a Jo Fong gyda Becky Davies, mae A Brief History of Difference yn ddarn o theatr ryngweithiol sydd â’i gwreiddiau mewn sgwrs, rhannu gwybodaeth, naratif personol a pherfformiad.

Mae A Brief History of Difference ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried eu hunain yn rhywun gwahanol, ac i unrhyw un sy’n meddwl tybed sut beth yw bod neu fyw’n wahanol.

HYGYRCHEDD:

Bydd y perfformiad ar ddydd Gwener 1 Mawrth yn cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Mae'r perfformiad ar ddydd Iau 29 Chwefror hefo disgrifiad sain, plis gofynnwch Blaen y Ty wrth cyrraedd, neu e-bostio [email protected] o leiaf 48 awr cyn i drefnu.


Taflen Sain:

Stream Audio Flyer AD for A Brief History of Difference from Chapter

Gallwch wrando i Disgrifiad Sain o'r set yma:

Stream Audio Introduction, A Brief History Of Difference[1] by Chapter | Listen online for free on SoundCloud

Stream Vignettes From A Brief History Of Difference[1] by Chapter | Listen online for free on SoundCloud

Share