Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Art

AM10 Families Workshop

Free

Nodweddion

Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, byddwn ni’n gwahodd teuluoedd i ddathlu gwaith Naomi a chroesawu ei Hysbryd Brodorol i Gymru. Dewch draw i chwarae gyda chlai a chreu rhywbeth bach i’w roi i’r Ysbrydion yn rhan o ‘groeso’ mawr Cymreig. Mae’r gweithdy yma hefyd yn ein helpu i feddwl am sut gallwn ni fod yn fwy croesawgar wrth bobl, yn enwedig ffoaduriaid, sy’n dod i fyw yng Nghymru am y tro cyntaf.

Mae’r gweithdy yma wedi’i ddylunio i blant 5-10 oed, ond mae croeso i bawb, ac rydyn ni’n eich annog i feddwl am ‘deulu’ yn yr ystyr ehangaf - dewch â’ch ‘teulu’ dewisol - ffrindiau, cymdogion ac unrhyw un rydych chi’n credu fyddai’n mwynhau chwarae gyda chlai a dathlu gwaith Naomi.

Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 2pm a 4pm. Does dim angen archebu.

Byddwn ni’n defnyddio clai gwlyb yn y gweithdy yma, felly gwisgwch ddillad rydych chi’n hapus i’w cael yn frwnt.

Share