![](https://s3.eu-west-2.amazonaws.com/assets.chapter.org/images/Theatre-Performance-2024/_2560x1097_crop_center-center_60_line/Amy-Mason-Lucy-Ridges-3027-1_high_res.jpg)
Performance
Amy Mason
- 0h 55m
Free
Nodweddion
- Hyd 0h 55m
Mae’r ddigrifwraig anarferol yma, a gyrhaeddodd rownd derfynol Funny Women ac yn enwebai Act Newydd y BBC, yn trafod dod allan yn ei thridegau, magu plant, herio pobl homoffobaidd, a wynebu ei gorffennol gwyllt.
Dyma stand-yp cyntaf awr o hyd, a mawr ei aros, y seren newydd ‘unigryw iawn’ (Bridget Christie). 8.5 miliwn o wyliadau ar TikTok (‘Bristol Mums’).
Wedi bod ar BBC Radio 1 a Radio 4. ‘Hollol gyfareddol’ Broadway Baby ★★★★ ‘Yn annwyl o deimladwy a doniol’ The Herald ‘Personol ond eto’n gwbl berthnasol’ WhatsonStage ★★★★★
‘Mae Amy Mason mor dda; ro’n i’n chwerthin cyn iddi ddweud dim’ BRIDGET CHRISTIE
Ynglŷn â'r artist:
‘Mae Amy Mason wedi’i geni i fod yn ddigrifwraig. Alla i ddim aros i’w gweld hi’n dod yn drysor cenedlaethol’ Bridget Christie
Digrifwraig, awdur a gwneuthurwr theatr yw Amy Mason, sy’n perfformio comedi ar draws gwledydd Prydain ar gyfer hyrwyddwyr yn cynnwys Off the Kerb a Little Wander. Cyrhaeddodd Amy rownd derfynol Funny Woman, mae ganddi sawl prosiect teledu ar waith gyda chwmnïau cynhyrchu, mae hi wedi ysgrifennu a pherfformio dau fonolog ar gyfer Radio 4, ac wedi ysgrifennu ar gyfer The News Quiz a Hypothetical (Dave). Mae wedi creu tair sioe hunangofiannol glodwiw gyda’r Old Vic yn Bryste, ac mae ganddi gomisiwn datblygu gyda’r theatr ar hyn o bryd. Yn 2014, enillodd Amy Wobr Llyfr Rhyngwladol Dundee gyda’i nofel The Other Ida. Mae gan Amy ddwy ferch ac mae’n byw ym Mryste.
More at Chapter
-
- Performance
Drones Comedy Club 2024
-
- Performance
House of Milan — Homage to the Icons & Legends Mini Ball Deluxe
-
- Performance
Gŵyl Fwrlésg Cymru 2024
-
- Performance
Deaf Gathering 2024: Gavin Lilley
A uniquely hilarious perspective of our diverse cultures, through the masterful hands of renowned deaf comedian Gavin Lilley.