
Performance
Emilyn Claid: UNTITLED
- 1h 10m
Nodweddion
- Hyd 1h 10m
Perfformwraig ddawns gwiar yw Emilyn, sydd yn ei hwythfed degawd ac sydd wedi cael gyrfa fel coreograffydd, awdur, cyfarwyddwr ac athrawes ers y chwedegau. Yn emilyn claid, UNTITLED, mae’n croesawu ofn diweddglo, gan chwarae gyda’r hyn mae rhoi’r gorau iddi yn ei olygu, eironi byw mewn hen gorff, beth sy’n real ac wedi’i ddychmygu.
Gan gyfuno symudiad a theatr, coreograffi wedi’i lwyfannu, a rhyngweithiadau byrfyfyr a chwareus, mae Emilyn yn wynebu cwiareiddio a heneiddio gyda hiwmor tywyll, gydag eiliadau dwys yn torri drwyddo. Wrth iddi drawsnewid rhwng heliwr a chreadur, therapydd a difa, criwsio a dadfeilio, mae clytwaith o straeon personol a choreograffi hunan-gyfeiriedig yn dod i’r amlwg, wedi’i blethu â deunydd wedi’i ddyfeisio ar y cyd â Heidi Rustgaard, Florence Peake a Joseph Mercier.
Ymunwch Emilyn Claid a Kit Edwards, Curadur Berfformiad mewn sgwrs ar ôl y perfformiad, yn y Theatr o 9yh
More at Chapter
-
- Workshop
Anushiye Yarnell: Archipelago Movement Class
Ymunwch â’r artist Anushiye Yarnell ar gyfer dosbarthiadau Symud Archipelago, wedi’u hysbrydoli gan ioga Scaravelli, asana creadigol, gymnasteg Noguchi, a phatrymau symud esblygiadol a datblygiadol. Yn dyner, yn hyblyg, ac yn agored i bob lefel profiad.
-
- Events
Drones Comedy Club 2025
The best from up-and-coming stand-ups on the first and third Friday of the month.
-
- Performance
Trothwy: (Un)naturally
Curated by Pasta Now. Threshold is a new monthly evening of performance at Chapter, curated by a local artist, inviting local artists to contribute new/raw/unfinished performance in the spirit of play, exploration and exchange across disciplines.
-
- Performance
Nosweithia Vogue: Trans Excellence Edition
Mae Nosweithia Vogue yn dychwelyd i Chapter ar gyfer digwyddiad OTA Kiki sy’n dathlu Rhagoriaeth Draws. Mae’r digwyddiad ar agor i bawb, gyda chategorïau fel Vogue Fem a Runway, ac mae’n argoeli i fod yn noson gyffrous o berfformio a balchder.