Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Art

EXPERIMENTICA 24: Holly Slingsby: Holding Shards & An Enclosed Garden + Sewsiwn Holi ac Ateb

  • 1h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m

Dangosiad o ddau waith fideo perfformiad. Mae 'Holding Shards' yn waith newydd sy’n defnyddio eiconoclastiaeth i feddwl am alar, gan gydbwyso hyn â’r gobaith am aildyfu a thrawsnewid. Ochr yn ochr â hyn, mae 'An Enclosed Garden' yn mynd ati’n chwareus i gyfleu gerddi perlysiau mynachaidd a phaentiadau hortus conclusus canoloesol, gan gynnig y gofodau amaethu yma fel noddfeydd myfyriol ac angenrheidiol.

+ Sesiwn Holi ac Ateb gyda Claire Vaughan

Artist sy’n byw yn Abertawe yw Holly Slingsby. Astudiodd yn Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen, ac Ysgol Gelf Slade, Llundain. Mae ei hiaith weledol yn defnyddio eiconograffeg grefyddol, mytholegau, a diwylliant cyfoes. Mae llawer o’i gwaith diweddar yn ceisio cyfleu profiad o anffrwythlondeb.

Mae ei gwaith wedi cael ei sgrinio, ei berfformio a’i arddangos yn Tate St Ives; Exeter Phoenix; Gŵyl Norwich a Norfolk; Turner Contemporary; Bòlit, Girona; Tintype, Llundain; DKUK, Llundain; Matt’s Gallery; Spike Island; Modern Art Oxford; Amgueddfa Freud; CCC Barcelona; LABS Bologna; ICA, Llundain; Gŵyl FEM, Girona; Art Licks Weekend; a’r Barbican.


Polisi hwyrddyfodiaid: Bydd y drysau’n agor chwarter awr cyn amser dechrau’r perfformiad. Dylech gyrraedd yn brydlon gan fod capasiti’r digwyddiad yn gyfyngedig. Bydd unrhyw seddi sy’n wag 5 munud cyn amser dechrau’r perfformiad yn cael eu rhyddhau a’u hail-werthu wrth y drws ar sail cyntaf i’r felin.

Hygyrchedd: BSL gan Nez Parr, capsiynau


Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio. Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share