Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Performance

Joon Dance: Half Term Hoppers

  • 3h 30m

£20 - £50

Nodweddion

  • Hyd 3h 30m

Cwrs dawns dwys 3 sesiwn dros 3 diwrnod yw Sboncwyr Hanner Tymor sy’n cael ei gynnal gan Joon Dance yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.

Bydd pobl ifanc 11-15 oed gydag unrhyw lefel o brofiad o ddawnsio a symud yn cael cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau symud creadigol mewn cyd-destun cefnogol.

Bydd 2 artist dawns, Sophie ac Indigo, yn tywys y rhai sy’n cymryd rhan drwy broses o archwilio'r thema "Tu Allan y Tu Mewn" mewn amrywiaeth o weithgareddau gan amrywio o archwilio symud yn rhydd i ddatblygu sgiliau dawns technegol.


Tocyn dydd: £20

Tocyn wythnos* (pob sesiwn): £50

*Mae tocyn wythnos ar gael i'w brynu wrth ddewis tocyn 27 Mai.


Bydd y diwrnodau’n llifo fel hyn:

10:00-11:30 - Sgiliau dawns cyfoes: byddwn yn dysgu sut i symud ein cyrff yn ddiogel drwy fan gwag, gan deithio, rholio a dysgu dawnsfeydd mewn amrywiaeth o arddulliau dawns cyfoes.

11:30-12:00 - Egwyl

12:00-13:30 - Symud creadigol Tu Allan y Tu Mewn - Yn y sesiwn hon byddwn ni’n archwilio'r thema Tu Allan y Tu Mewn drwy amrywiaeth o ymarferion creadigol a fydd yn cynnwys creu ein coreograffi ein hunain.

Gennym ni nifer bach o lefydd am ddim i'r hyn sy'n gweld y sesiynau yn gost afresymol. Cysylltwch â [email protected] i drefnu. Os mae'r llefydd yn llawn, byddwn yn ychwanegu eich enw i'r rhestr aros.

Os ydych eisiau cymryd rhan ac efo anghenion hygyrch, cysylltwch â [email protected] cyn archebu.

Joon Dance’s Half Term Hoppers offers 11-15 year olds a chance to develop creative movement skills.

Share

Times & Tickets