Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Peeping Tom (15)

  • 1h 42m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 42m

Prydain | Michael Powell | Carl Böhm, Anna Massey, Moria Shearer

Mae Mark yn gweithio mewn stiwdio ffilm gyda’r dydd, a gyda’r nos mae’n tynnu lluniau o fenywod i’w gwerthu. Mae hefyd yn wneuthurwr ffilm amatur, ac yn creu ffilm am ofn yn ei fflat llawr uchaf tlawd yn Soho. Un diwrnod, mae’n cwrdd â merch y teulu sy’n byw oddi tano, sy’n dangos diddordeb ynddo, ond pan mae hi’n sleifio i mewn i gael golwg ar ei waith ffilm, mae’n cael ei harswydo gan yr hyn mae’n ei weld. Bu i’r “campwaith tywyll” yma gan Michael Powell ddod â’i yrfa i ben i bob pwrpas ar ôl ei rhyddhau, gyda’i chyflead o voyeuriaeth yn ormod i feirniaid y cyfnod. Cafodd ei hailddarganfod ddegawd yn ddiweddarach pan oedd gwneuthurwyr ffilm fel Scorsese, Fellini ac Argento yn cyfeirio at y ffilm yn eu gwaith ac mewn cyfweliadau, a chymerwn foment i ailedrych ar ei themâu Prydeinig o ormes rhywiol.

Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

1960, genedigaeth degawd; y boblogaeth ychydig yn iau, a’r dillad (a’r moesau o bosib) ychydig yn fwy llac. Ymysg lliwiau llachar a hyder Llundain oes y swing, roedd rhywbeth arall ar ddod – y ffilm slasher. Cafodd dau wneuthurwr ffilm o Brydain, Michael Powell ac Alfred Hitchcock, ysbrydoliaeth yn eu cysgod eu hunain a dechrau chwyldro genre. Roedd Psycho, yn fyth Americanaidd pendant, rhywbeth ofnadwy yn llechu yn y llefydd gwledig cyfyngol, yn llwyddiant ysgubol. Ond yn gynharach y flwyddyn honno rhyddhaodd Powell Peeping Tom, ffilm benfeddwol o voyeuraidd sydd wedi’i gosod yn strydoedd Soho, efallai’n rhy agos i adre i’r beirniaid o Lundain ar y pryd, y bu i’w casineb tuag at y rhyw a’r trais yn y ffilm ladd gyrfa Powell i bob pwrpas. Mae bellach yn cael ei hystyried fel un o’r ffilmiau arswyd mwyaf dylanwadol a steilus erioed, a gallwn edrych ar y ddwy gyda’i gilydd a myfyrio ar gyfnod cyffrous i ffilm genre. Ymunwch â ni mewn sgwrs gyda Rebecca McCullum, cyflwynydd Talking Hitchcock, i ddysgu mwy am y stori ddiddorol yma.  

Share