Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Psycho (15)

  • 1h 48m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 48m

UDA | Alfred Hitchcock | Anthony Perkins, Janet Leigh


Mae’r ysgrifenyddes Marion Crane ar ffo ar ôl dwyn arian gan ei chyflogwr, ac yn stopio yn y Bates Motel yn ystod storm fawr. Wrth y ddesg, mae’n cwrdd â Norman ifanc a phryderus, sy’n rhedeg y lle i helpu ei fam. Arbrawf chwareus gan Hitchcock mewn “sinema pûr”, mewn du a gwyn syml, criw rhad, a sgôr gyfyngedig (ond eiconig) gan Bernard Herrmann, cawn ein tynnu’n ôl at galon ddu America wledig i gael ein gwefru a’n dychryn.


Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

1960, genedigaeth degawd; y boblogaeth ychydig yn iau, a’r dillad (a’r moesau o bosib) ychydig yn fwy llac. Ymysg lliwiau llachar a hyder Llundain oes y swing, roedd rhywbeth arall ar ddod – y ffilm slasher. Cafodd dau wneuthurwr ffilm o Brydain, Michael Powell ac Alfred Hitchcock, ysbrydoliaeth yn eu cysgod eu hunain a dechrau chwyldro genre. Roedd Psycho, yn fyth Americanaidd pendant, rhywbeth ofnadwy yn llechu yn y llefydd gwledig cyfyngol, yn llwyddiant ysgubol. Ond yn gynharach y flwyddyn honno rhyddhaodd Powell Peeping Tom, ffilm benfeddwol o voyeuraidd sydd wedi’i gosod yn strydoedd Soho, efallai’n rhy agos i adre i’r beirniaid o Lundain ar y pryd, y bu i’w casineb tuag at y rhyw a’r trais yn y ffilm ladd gyrfa Powell i bob pwrpas. Mae bellach yn cael ei hystyried fel un o’r ffilmiau arswyd mwyaf dylanwadol a steilus erioed, a gallwn edrych ar y ddwy gyda’i gilydd a myfyrio ar gyfnod cyffrous i ffilm genre. Ymunwch â ni mewn sgwrs gyda Rebecca McCullum, cyflwynydd Talking Hitchcock, i ddysgu mwy am y stori ddiddorol yma.  

Share