Stephen bailey lead tour image crass photo credit tom pitfield

Performance

Stephen Bailey

Free

Coming soon

Nodweddion

Little Wander mewn cydweithrediad â Intertalent Group yn gyflwyno Stephen Bailey: CRASS.

Ac yntau wedi ymddangos ar Live at the Apollo a Would I Lie To You? y BBC, mae’r digrifwr Stephen Bailey yn dychwelyd i’r llwyfan gyda’i sioe fyw newydd sbon, CRASS.

Daw o gefndir dosbarth gweithiol ym Manceinion, ac ar ôl chwe mlynedd yn gweithio yn Sainsbury’s, sawl cinio Sul, a rhoi ei dref enedigol Denton ar y map, mae llawer wedi newid ym mywyd Stephen. Mae e bellach mewn perthynas ers pum mlynedd, wedi prynu tŷ, yn ewythr, ac wedi dringo i fyny i ganol yr ysgol showbiz – gan brofi pam ei fod yn llawer mwy na crass act.

Mae Stephen wedi ymddangos ar sioeau fel Coronation St (ITV), Tipping Point Lucky Stars (ITV), Richard Osman’s House of Games (BBC), Unbreakable (BBC) ac wedi cyflwyno sioeau gan gynnwys Celebs on the Farm (C5) a Takeshi’s Castle (Comedy Central).

“Mae e’n ast o’r radd flaenaf â gwên fuddugoliaethus, fe yw hoff ffrind gorau hoyw pawb. Mae Bailey’n hyderus, yn ddoniol, ac yn briodol anghwrtais”

The Reviews Hub

“Mae gan Bailey gysylltiad naturiol â’i gynulleidfa a dyma lle mae e’n dod i mewn i’w hunan go iawn”

Broadway Baby

Credyd ffoto: Tom Pitfield

Share