Archebu eich tocynnau
Ar-lein
Lle bo'n bosib, gofynnwn i chi'n archebu tocynnau ymlaen llaw yn chapter.org. Ewch i'r adran Digwyddiadau a dewiswch ffilm, perfformiad neu ddigwyddiad. Mae tocynnau ar gyfer dangosiadau ffilm a pherfformiadau ar gael i'w prynu ar-lein tan 15 munud cyn yr amser dechrau a hysbysebwyd, yn amodol ar fod tocynnau ar gael. Mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau rhithiol hefyd ar gael i'w prynu ar-lein tan un awr cyn yr amser dechrau a hysbysebwyd, yn amodol ar fod tocynnau ar gael ac oni bai y nodwyd fel arall.
Wyneb yn wyneb
Os na allwch archebu ar-lein, bydd modd i aelod o'n tîm eich cynorthwyo chi ar y safle. Serch hynny, lle bo'n bosib gofynnwn i chi archebu ar-lein er mwyn osgoi cyswllt cymdeithasol ac i helpu i gadw pawb yn ddiogel. Hyd yn oed os ydych chi ar y safle ac yn dymuno archebu tocyn, gofynnwn yn garedig i chi archebu ar eich dyfais glyfar drwy ddefnyddio ein cysylltiad gwe di-wifr. Dylech nodi mai dim ond taliadau di-gyswllt allwn ni eu cymryd wrth ein Desg Wybodaeth. Ni fyddwn ni'n cymryd archebion tocynnau dros y ffôn.
Casglu Tocynnau
Does dim angen casglu tocynnau. Rydyn ni wedi gosod peiriannau hunan-sganio wrth fynedfa'r ddwy sinema a theatr. Bydd modd i chi sganio cod QR o'ch ffôn neu ei argraffu gartref cyn dod. Os na allwch chi wneud hyn, mae modd i ni argraffu'ch tocynnau wrth y Ddesg Wybodaeth, ond hoffem osgoi hyn lle bo'n bosib.
Prisiau
Sinema (tan 31 Rhagfyr 2020):
Llawn £6| Consesiwn £4
*Caiff rhai digwyddiadau arbennig eu heithrio.
Mae Consesiwn ar gael i:
• Students (valid NUS card must be supplied)
• Over 60s
• Children (17 and under)
• Registered Unemployed
• Disabled (free companion tickets via Hynt and CEA)
• Chapter Members
Theatr
Mae prisiau’n amrywio yn ôl y cynhyrchiad. Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan.
Oriel
Mae mynediad i'r Oriel am ddim.
Does dim angen i chi archebu, ond bydd gofyn i chi aros wrth y fynedfa tan y gall aelod o staff eich croesawu chi. Mae rhagor o wybodaeth am beth i'w ddisgwyl wrth ymweld â'r Oriel ar gael yma.
Digwyddiadau Rhithiol
Mae prisiau'n amrywio
Os byddwch chi'n archebu tocyn ar gyfer digwyddiad rhithiol drwy wefan Chapter, byddwch chi'n cael derbynneb i gadarnhau a thocyn ar-lein a/neu fanylion Zoom i'ch cyfeiriad e-bost. Caiff y rhan fwyaf o'n dangosiadau/rhentiadau ffilm ar-lein eu prynu drwy Vimeo, un ai drwy Chwaraewr Chapter neu drwy wefannau ein dosbarthwyr sinema.
Telerau ac Amodau gwerthiannau tocynnau:
Diweddarwyd fis Medi 2020
Gweler ein llawn Telerau ac Amondau